Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
2.—(1) Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015() wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 6(1) (ystyr “corff cyhoeddus”), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)cyd-bwyllgor corfforedig;”.
(3) Ar ôl adran 8 (amcanion llesiant Gweinidogion Cymru) mewnosoder—
“8A Amcanion llesiant cyd-bwyllgorau corfforedig
(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)heb fod yn hwyrach na 1 Ebrill 2023, a
(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig, a
(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(3) Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu ei amcanion llesiant.
(4) Os yw cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5) Caiff cyd-bwyllgor corfforedig, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.
(6) Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(7) Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.”
(4) Yn adran 9(1) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill), ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “neu gyd-bwyllgor corfforedig”.
(5) Yn adran 55(1) (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.