- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
15. Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—
(i)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;
(ii)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—
“(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu”;
(b)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—
“(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—
(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
16. Yn rheoliad 4(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
17. Yn rheoliad 81(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
18. Yn rheoliad 110(12E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.
19. Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 2A—
(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(ii)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);
(iii)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—
“(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol.”
(b)ym mharagraff 3—
(i)yn is-baragraff (1)(a)(iv)(bb) ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(ii)yn is-baragraff (1)(a)(iv)(cc) ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;
(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—
(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;
(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu
(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.”
(c)ym mharagraff 9C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol.”
20. Yn rheoliad 4(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
21. Yn rheoliad 23(2), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.
22. Yn rheoliad 41(3), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.
23. Yn rheoliad 81(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
24. Yn rheoliad 110(3)(a)(i), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
25. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9B mewnosoder—
9BA.—(1) Person—
(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd—
(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
26. Yn Atodlen 4 paragraff (3), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/708 (Cy. 159); O.S. 2020/1302 (Cy. 287); O.S. 2021/9 (Cy. 4); O.S. 2021/73 (Cy. 19); O.S. 2021/481 (Cy. 148) ac O.S. 2021/813 (Cy. 192).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: