2021 Rhif 1387 (Cy. 364)
Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Cyflwynodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), adroddiad dyddiedig Mawrth 2019 i Weinidogion Cymru yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys.
Gweithredodd Gweinidogion Cymru yr argymhellion hynny, gydag addasiadau, drwy wneud Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 20213 (“Gorchymyn 2021”) o dan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn 2021.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys.
Diwygio Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 20212
1
Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandrinio, yn lle “Cymuned Llandrinio” rhodder “Cymunedau Llandrinio, a Bausley gyda Chrugion”.
3
Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandysilio, yn lle “Cymuned Llandysilio” rhodder “Cymunedau Llandysilio a Charreghwfa”.
4
Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llansanffraid, yn lle “Cymuned Llansanffraid” rhodder “Cymunedau Llansanffraid a Llanfechain”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)