Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1387 (Cy. 364)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021

Gwnaed

8 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

10 Rhagfyr 2021

Cyflwynodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), adroddiad dyddiedig Mawrth 2019 i Weinidogion Cymru yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys.

Gweithredodd Gweinidogion Cymru yr argymhellion hynny, gydag addasiadau, drwy wneud Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021(3) (“Gorchymyn 2021”) o dan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn 2021.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys.

Diwygio Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021

2.—(1Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandrinio, yn lle “Cymuned Llandrinio” rhodder “Cymunedau Llandrinio, a Bausley gyda Chrugion”.

(3Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandysilio, yn lle “Cymuned Llandysilio” rhodder “Cymunedau Llandysilio a Charreghwfa”.

(4Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llansanffraid, yn lle “Cymuned Llansanffraid” rhodder “Cymunedau Llansanffraid a Llanfechain”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 (“Gorchymyn 2021”), a weithredodd yr argymhellion ar gyfer newidiadau i drefniadau etholiadol Sir Powys, fel yr oeddent wedi eu cynnwys yn Adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dyddiedig mis Mawrth 2019 (“yr Adroddiad”), gydag addasiadau.

Mae’r Tabl yn yr Atodlen i Orchymyn 2021 (“y Tabl”) yn nodi’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys. Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn 3 o’r Tabl mewn perthynas â’r ward etholiadol honno. Drwy gamgymeriad hepgorodd yr Adroddiad wybodaeth benodol mewn perthynas â wardiau etholiadol Llandrinio, Llandysilio a Llansanffraid, ac o ganlyniad nid oedd yr wybodaeth honno wedi ymddangos yng ngholofn 3 o’r Tabl. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).