- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
8 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
10 Rhagfyr 2021
Cyflwynodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), adroddiad dyddiedig Mawrth 2019 i Weinidogion Cymru yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys.
Gweithredodd Gweinidogion Cymru yr argymhellion hynny, gydag addasiadau, drwy wneud Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021(3) (“Gorchymyn 2021”) o dan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn 2021.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys.
2.—(1) Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandrinio, yn lle “Cymuned Llandrinio” rhodder “Cymunedau Llandrinio, a Bausley gyda Chrugion”.
(3) Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llandysilio, yn lle “Cymuned Llandysilio” rhodder “Cymunedau Llandysilio a Charreghwfa”.
(4) Yng ngholofn (3) o’r cofnod sy’n ymwneud â ward etholiadol Llansanffraid, yn lle “Cymuned Llansanffraid” rhodder “Cymunedau Llansanffraid a Llanfechain”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 (“Gorchymyn 2021”), a weithredodd yr argymhellion ar gyfer newidiadau i drefniadau etholiadol Sir Powys, fel yr oeddent wedi eu cynnwys yn Adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dyddiedig mis Mawrth 2019 (“yr Adroddiad”), gydag addasiadau.
Mae’r Tabl yn yr Atodlen i Orchymyn 2021 (“y Tabl”) yn nodi’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys. Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn 3 o’r Tabl mewn perthynas â’r ward etholiadol honno. Drwy gamgymeriad hepgorodd yr Adroddiad wybodaeth benodol mewn perthynas â wardiau etholiadol Llandrinio, Llandysilio a Llansanffraid, ac o ganlyniad nid oedd yr wybodaeth honno wedi ymddangos yng ngholofn 3 o’r Tabl. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cywiro’r camgymeriad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: