2021 Rhif 1459 (Cy. 374)

Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 36A(1), (2), (4), (5) a (9) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19831 ac adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932, yn gwneud y Rheolau a ganlyn.

Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oeddent o’r farn eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 36A(10) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad3.