ATODLENNI

ATODLEN 1Rheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer prif ardal pan na chynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad arall

RHAN 2Hysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol

Dull Ethol

Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornest

20.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu a yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer y ward etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12 yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Os nad yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod y person neu’r personau sy’n dal wedi ei enwebu neu wedi eu henwebu’n ddilys wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

(3Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)rhoi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r rhai y datganwyd eu bod wedi eu hethol i swyddog priodol cyngor y brif ardal, a

(b)cyhoeddi eu henwau.

(4Os yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid cynnal pleidlais yn unol â Rhan 3.