- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
51.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.
(2) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu selio pob blwch pleidleisio (gyda’r allwedd ynghlwm os oes un) a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl.
(3) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl—
(a)y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd (gyda’i gilydd);
(b)y papurau pleidleisio a dendrwyd;
(c)y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon (gyda’i gilydd);
(d)rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 42(2)(c)) (y cyfeirir ati yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheolau hyn fel “y rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd”);
(e)unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 37(4) neu (5) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);
(f)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn (gyda’i gilydd)—
(i)y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);
(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);
(iii)y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 45);
(iv)y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);
(v)y rhestr a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais).
(4) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau neu beri iddynt gael eu danfon yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau.
(5) I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—
(a)nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a
(b)sut y cyfrifwyd y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—
(i)nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifwyd hwy fel arall;
(ii)nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;
(iii)nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;
(iv)nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.
(6) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru (fel y’u diffinnir gan reol 40(7)), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: