ATODLENNI

ATODLEN 1Rheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer prif ardal pan na chynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad arall

RHAN 2Hysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol

Hysbysiad Etholiad

Hysbysiad etholiad

3.

(1)

Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad.

(2)

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)

nifer y cynghorwyr sydd i’w dychwelyd ar gyfer pob ward etholiadol yn y brif ardal,

(b)

dyddiad y bleidlais os ceir gornest,

(c)

y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu a pha bryd a gwybodaeth am sut y gellir cael ffurflenni papur enwebu ar-lein a pha bryd,

(d)

yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac

(e)

y man lle gellir danfon papurau enwebu a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r man hwnnw.

(3)

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan hefyd erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.

(4)

Rhaid i’r man a bennir yn yr hysbysiad fel y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu, a lle gellir eu danfon, fod yn swyddfeydd cyngor y brif ardal.

(5)

Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gynnwys yn yr hysbysiad ddatganiad danfon electronig.

(6)

Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—

(a)

drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,

(b)

drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu

(c)

naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel y crybwyllir yn is-baragraff (b).