3.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w dychwelyd ar gyfer pob ward etholiadol yn y brif ardal,
(b)dyddiad y bleidlais os ceir gornest,
(c)y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu a pha bryd a gwybodaeth am sut y gellir cael ffurflenni papur enwebu ar-lein a pha bryd,
(d)yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac
(e)y man lle gellir danfon papurau enwebu a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r man hwnnw.
(3) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan hefyd erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.
(4) Rhaid i’r man a bennir yn yr hysbysiad fel y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu, a lle gellir eu danfon, fod yn swyddfeydd cyngor y brif ardal.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gynnwys yn yr hysbysiad ddatganiad danfon electronig.
(6) Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—
(a)drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,
(b)drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu
(c)naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel y crybwyllir yn is-baragraff (b).