Addasiadau i Ddeddf 1983LL+C

6.—(1Mae darpariaethau Deddf 1983 y cyfeirir atynt yn adran 187(1) o’r Ddeddf honno (darpariaethau sy’n gymwys mewn etholiadau lleol penodol) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at swyddog priodol yr awdurdod i’w ddarllen fel cyfeiriad at y swyddog canlyniadau.

(2Mae adran 136(2)(b) o Ddeddf 1983(1) (swm gwarant costau ar ddeiseb etholiad) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod y cyfeiriad at “£2,500” i’w ddarllen fel cyfeiriad at “£1,500”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rule 6 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

(1)

Diwygiwyd adran 136(2)(b) gan baragraff 48 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 a chan baragraff 19(4) o Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).