ATODLENNI

ATODLEN 1Rheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer cymuned pan na chynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad arall

RHAN 2Hysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol

Dull Ethol

Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornest20

1

Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu a yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12 yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

2

Os nad yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod y person neu’r personau sy’n dal wedi ei enwebu neu eu henwebu’n ddilys wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

3

Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

a

rhoi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r rhai y datganwyd eu bod wedi eu hethol—

i

i swyddog priodol y cyngor cymuned, a

ii

i swyddog priodol y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo, a

b

cyhoeddi eu henwau.

4

Os yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid cynnal pleidlais yn unol â Rhan 3.