ATODLENNI

ATODLEN 1Rheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer cymuned pan na chynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad arall

RHAN 5Gwaredu Dogfennau

Gorchmynion i ddangos etc. dogfennau: darpariaeth atodol

64.

(1)

Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 63 i swyddog cofrestru ddangos dogfen sydd ym meddiant y swyddog cofrestru ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.

(2)

Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru yn y modd a gyfarwyddwyd gan y gorchymyn yn dystiolaeth bendant bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.

(3)

Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.

(4)

Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 63, wedi dangos—

(a)

papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a

(b)

rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.

(5)

Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.