2021 Rhif 1470 (Cy. 377)

Y Dreth Dirlenwi, Cymru

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4), 93 a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 20172.

Enwi a chychwynI11

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

CymhwysoI22

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwiI33

Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—

a

y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell,

b

y gyfradd is yw £3.15 y dunnell, ac

c

y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020I44

Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 20203, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2022”.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.

Y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell, y gyfradd is yw £3.15 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.

Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2022 yn parhau’n ddarostyngedig i’r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1614 (Cy. 338)) o ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.