xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1470 (Cy. 377)

Y Dreth Dirlenwi, Cymru

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

20 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

22 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4), 93 a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(1).

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

CymhwysoLL+C

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 [F1ond cyn 1 Ebrill 2023] neu ar ôl hynny.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (1.4.2024) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/367), rhlau. 1, 4

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwiLL+C

3.  Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—

(a)y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell,

(b)y gyfradd is yw £3.15 y dunnell, ac

(c)y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020LL+C

4.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020(2), ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2022”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2022, gweler rhl. 1

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

20 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.

Y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell, y gyfradd is yw £3.15 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.

Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2022 yn parhau’n ddarostyngedig i’r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1614 (Cy. 338)) o ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.