2021 Rhif 1477 (Cy. 379)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.00 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202
1
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 2 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 5, hepgorer paragraff (1A).
3
Hepgorer rheoliad 9A.
4
Yn rheoliad 10—
a
ym mharagraff (1), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”;
b
ym mharagraff (3), yn lle “, 8(2) a 9A(2)” rhodder “ac 8(2)”;
c
hepgorer paragraff (6ZA).
5
O flaen rheoliad 11 mewnosoder—
Darpariaeth drosiannol: gofynion ynysu10B
1
Pan—
a
bo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 8(2) (y “gofyniad i ynysu”) yn union cyn 22 Rhagfyr 2021,
b
bo’r gofyniad i ynysu yn gymwys i’r oedolyn oherwydd cymhwysiad rheoliad 10(6ZA) neu reoliad 11(1A), ac
c
bo diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 8(4) neu (5)) ar 22 Rhagfyr 2021 neu’n ddiweddarach,
mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i’r oedolyn ar ddechrau 22 Rhagfyr 2021.
2
Pan—
a
bo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 9A(2) (y “gofyniad i ynysu”) yn union cyn 22 Rhagfyr 2021, a
b
bo diwrnod olaf ynysiad y plentyn (fel y’i pennir yn unol â rheoliad 9A(4) neu (5)) ar 22 Rhagfyr 2021 neu’n ddiweddarach,
mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i’r plentyn ar ddechrau 22 Rhagfyr 2021.
3
Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at reoliadau 9A, 10(6ZA) ac 11(1A) yn gyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 22 Rhagfyr 2021.
6
Yn rheoliad 11, hepgorer paragraff (1A).
7
Yn rheoliad 12, hepgorer “neu 9A(2)”.
8
Yn rheoliad 13(1)(a), yn lle “, 8(1) neu 9A(1)” rhodder “neu 8(1)”.
9
Hepgorer rheoliad 13A.
10
Yn rheoliad 14(2)(a)—
a
yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”;
b
ym mharagraff (ii), yn lle “, 8(1) neu 9A(1)” rhodder “neu 8(1)”;
c
ym mharagraff (iii), yn lle “, 8 neu 9A” rhodder “neu 8”.
11
Yn rheoliad 30, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “, 8(2) neu 9A(2)” rhodder “neu 8(2)”.
12
Yn rheoliad 40—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (a), hepgorer “, 9A(2)”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “, 8(3) neu 9A(3)” rhodder “neu 8(3)”;
b
ym mharagraff (2)(a), yn lle “, 8(3) neu 9A(3)” rhodder “neu 8(3)”.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)