- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw gwrs dŵr neu unrhyw garthffos neu ddraen gyhoeddus i ddraenio dŵr mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig ac at y diben hwnnw caiff osod, tynnu a newid pibellau a chaiff, ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir, wneud agoriadau i’r cwrs dŵr, carthffos neu’r ddraen gyhoeddus a chysylltiadau ag ef/hi.
(2) Rhaid i unrhyw anghydfod sy’n deillio o arfer y pwerau ym mharagraff (1) i gysylltu â charthffos neu ddraen gyhoeddus neu ei defnyddio gael ei benderfynu fel pe bai’n anghydfod o dan adran 106 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1).
(3) Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gollwng unrhyw ddŵr i mewn i unrhyw gwrs dŵr, carthffos neu ddraen gyhoeddus oni cheir cydsyniad y person sy’n berchen arno neu arni; a chaiff y cyfryw gydsyniad ei roi yn ddarostyngedig i’r cyfryw delerau ac amodau ag y caiff yn rhesymol eu gosod, ond ni ellir ei atal yn afresymol.
(4) Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gwneud unrhyw agoriad i mewn i unrhyw garthffos na draen gyhoeddus ac eithrio—
(a)yn unol â chynlluniau a gymeradwyir gan y person sy’n berchen ar y garthffos neu’r ddraen, ond ni ellir atal y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol; a
(b)pan fo’r person hwnnw wedi cael cyfle i oruchwylio gwneud yr agoriad.
(5) Rhaid i’r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, beidio â difrodi gwely na glannau unrhyw gwrs dŵr nac ymyrryd â hwy.
(6) Rhaid i’r ymgymerwr gymryd y cyfryw gamau ag sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod unrhyw ddŵr sy’n cael ei ollwng i mewn i gwrs dŵr neu garthffos neu ddraen gyhoeddus o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mor rhydd ag y bo’n ymarferol rhag gro, pridd neu sylwedd solet arall, olew neu sylwedd mewn toddiant.
(7) Nid yw’r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw weithgarwch ynglŷn â dŵr daear na gweithgarwch gollwng dŵr o fewn ystyr Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(2) nac yn trechu’r gofyniad i gael trwydded o dan reoliad 12(1)(b) o’r un rheoliadau.
(8) Os bydd person sy’n cael cais am gydsyniad neu gymeradwyaeth yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael cais am gydsyniad o dan baragraff (3) neu gymeradwyaeth o dan baragraff (4)(a) tybir bod y person hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad neu wedi rhoi ei gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd.
(9) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “carthffos neu ddraen gyhoeddus” yw carthffos neu ddraen sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, bwrdd draenio mewnol, awdurdod lleol, neu ymgymerwr carthffosiaeth; a
(b)mae i ymadroddion eraill, heb gynnwys cyrsiau dŵr a ddefnyddir yn yr erthygl hon ac yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991(3) yr un ystyr ag sydd yn y Ddeddf honno.
1991 p. 56. Diwygiwyd adran 106 gan adrannau 35(1), 35(8) a 43(2) o Ddeddf Cystadleuaeth a Gwasanaeth (Cyfleustodau) 1992 (p. 43) ac Atodlen 2 i’r ddeddf honno, adrannau 36(2) a 99 o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) a pharagraff 16(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: