Cymhwyso Deddf 1981
25.—(1) Mae Deddf 1981 yn gymwys fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.
(2) Mae Deddf 1981, fel y’i cymhwyswyd gan baragraff (1), yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.
(3) Yn adran 5 (y dyddiad cynharaf ar gyfer weithredu datganiad), yn is-adran (2), hepgorer y geiriau o “, and this subsection” hyd at y diwedd.
(4) Hepgorer adran 5A() (terfyn amser ar gyfer datganiad breinio cyffredinol).
(5) Yn adran 5B(1)() (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land 1981 (application to the High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 5A” rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.
(6) Yn adran 6() (hysbysiadau ar ôl gweithredu datganiad), yn is-adran (1)(b), yn lle “section 15 of, or paragraph 6 of Schedule 1 to, the Acquisition of Land Act 1981” rhodder “section 14A() of the Transport and Works Act 1992”.
(7) Yn adran 7() (hysbysiad deongliadol i drafod telerau), yn is-adran (1)(a), hepgorer “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.
(8) Yn Atodlen A1() (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol), paragraff 1(2) —
“(2) But see article 26(3) (power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021 which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule.”
(9) Dehonglir cyfeiriadau at Ddeddf 1965 yn Neddf 1981 fel cyfeiriadau at Ddeddf 1965 fel y’u cymhwyswyd at gaffael tir o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir).