2021 Rhif 1478 (Cy. 380)

Trafnidiaeth A Gweithfeydd, Cymru

Gorchymyn Parth Arddangos Morlais 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae cais wedi cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol â Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 20061 am Orchymyn o dan adrannau 3 a 5 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 19922 (“Deddf 1992”).

Parodd Gweinidogion Cymru i ymchwiliad gael ei gynnal at ddibenion y cais o dan adran 11 o Ddeddf 1992.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau a wnaed ac nas tynnwyd yn eu hôl ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad, wedi penderfynu gwneud Gorchymyn sy’n gweithredu’r cynigion sy’n cael eu cynnwys yn y cais gydag addasiadau sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gwneud newid sylweddol yn y cynigion.

Mae Gweinidogion Cymru ar ôl ystyried sylwadau a wnaed yn briodol o dan adran 13 o Ddeddf 1992, wedi penderfynu gwneud y Gorchymyn y gwnaed cais amdano gydag addasiadau. Cyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru yn y London Gazette ar 17 Rhagfyr 2021.

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 2, 3, 4, 5, 7, 8, 11, 1516 a 17 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, sydd bellach yn arferadwy ganddynt3 yn gwneud y Gorchymyn canlynol.