xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Meddiannu Tir Dros Dro

Defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd

28.—(1Caiff yr ymgymerwr, mewn cysylltiad â chyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig—

(a)fynd ar—

(i)y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 9 (tir y gellir ei feddiannu dros dro) a’i feddiannu dros dro at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno; a

(ii)unrhyw dir arall o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir nad yw hysbysiad mynediad wedi cael ei gyflwyno yn ei gylch o dan adran 11(1) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965 (ac eithrio mewn cysylltiad â chaffael hawliau yn unig) ac nad yw datganiad wedi cael ei weithredu yn ei gylch o dan adran 4(2) (gweithredu datganiad) o Ddeddf 1981 a’i feddiannu dros dro;

(b)gwaredu unrhyw adeiladau a llystyfiant ar y tir hwnnw;

(c)adeiladu gweithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir hwnnw;

(d)adeiladu unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol fel y’i crybwyllir yn erthygl 3 (pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gweithfeydd); ac

(e)adeiladu unrhyw weithfeydd lliniaru ar y tir hwnnw.

(2Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(3Ni chaiff yr ymgymerwr, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddiannu unrhyw dir o dan yr erthygl hon—

(a)yn achos unrhyw dir a bennir ym mharagraff (1)(a)(i), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (4) o Atodlen 9; neu

(b)yn achos unrhyw dir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(ii), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y gweithfeydd neu ddiben arall y meddiannwyd y tir dros dro ar ei gyfer oni bai bod yr ymgymerwr, erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, wedi cyflwyno hysbysiad mynediad o dan adran 11 o Ddeddf 1965 neu wedi gwneud datganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 mewn perthynas â’r tir hwnnw.

(4Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr dynnu ymaith yr holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir; ond nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr—

(a)codi adeilad yn lle adeilad a dynnwyd ymaith o dan yr erthygl hon;

(b)adfer y tir y mae unrhyw weithfeydd parhaol wedi cael eu hadeiladu arno o dan baragraffau (1)(d) neu (1)(e);

(c)gwaredu unrhyw weithfeydd i gryfhau’r ddaear sydd wedi cael eu gosod ar y tir er mwyn hwyluso adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig; neu

(d)waredu unrhyw fesurau a osodwyd dros neu o amgylch cyfarpar yr ymgymerwr statudol i ddiogelu’r cyfarpar hwnnw rhag y gweithfeydd awdurdodedig.

(5Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(6Mae unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (5), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, i’w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(7Heb effeithio ar erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2)(3) (darpariaethau pellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965 nac o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn perthynas â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (5).

(8Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, nid yw’n ofynnol caffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(9Mae adran 13(4) (gwrthod rhoi meddiant i awdurdod caffael) o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro o dan yr erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).

Defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynnal a chadw sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—

(a)mynd ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a’i feddiannu dros dro os yw’r cyfryw feddiannu yn rhesymol ofynnol at ddiben cynnal a chadw’r gwaith neu unrhyw weithfeydd ategol sy’n gysylltiedig ag ef; a

(b)adeiladu’r cyfryw weithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y diben hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn awdurdodi’r ymgymerwr i feddiannu dros dro—

(a)unrhyw dŷ neu ardd sy’n eiddo i dŷ; neu

(b)unrhyw adeilad (heblaw am dŷ) os yw wedi’i feddiannu am y tro.

(3Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(4Caiff yr ymgymerwr ond parhau i feddiannu tir o dan yr erthygl hon am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i gynnal a chadw’r rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig y meddiannwyd y tir ar eu cyfer.

(5Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr waredu’r holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir.

(6Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(7Bydd unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (6), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, yn cael ei benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(8Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (6).

(9Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, ni fydd yn ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(10Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro yn unol â’r erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965).

(11Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod cynnal a chadw”, mewn perthynas â gwaith awdurdodedig, yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gwaith yn cael ei agor i’w ddefnyddio.

Ymgorffori’r cod mwynau

30.  Mae Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 (mwynau) wedi’u hymgorffori yn y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i’r addasiadau—

(a)yn lle “the acquiring authority” rhodder “the undertaker”;

(b)yn lle “undertaking” rhodder “authorised works”; ac

(c)yn lle “compulsory purchase order” rhodder “this Order”.

Diogelu hawliau i bysgota

31.—(1Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu’r perchenogion, y meddianwyr neu bersonau sydd fel arall â hawl berchenogol i bysgota y mae adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, neu arfer y pwerau a roddir i’r ymgymerwr gan y Gorchymyn hwn, yn cael effaith andwyol arnynt, am unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y cyfryw bersonau drwy adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu neu arfer y pwerau.

(2Rhaid i ddigollediad o dan baragraff (1) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(1)

Diwygiwyd adran 11 gan adran 34(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac Atodlen 4 i’r ddeddf honno, adran 3 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a Rhan 1 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, adran 14 o Fesur Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (Rhif 1) a pharagraff 12(1) o Atodlen 5 i’r mesur hwnnw, adrannau 186(2), 187(2) a 188 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 6 o Atodlen 14 a pharagraff 3 o Atodlen 16 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(2)

Diwygiwyd adran 4 gan adrannau 184 a 185 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18 i’r ddeddf honno.

(3)

Diwygiwyd adran 10 drwy adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 13(2) o Atodlen 2 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(4)

Diwygiwyd adran 13 gan adrannau 62(3), 139 a 146 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15) a pharagraffau 27 a 28 o Atodlen 13 a Rhan 3 o Atodlen 23 i’r ddeddf honno.