xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
22. Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol—
(a)cymaint o’r tir a ddangosir ar blan y tir o fewn terfynau’r gwyro fel tir i’w gaffael yn orfodol ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig; a
(b)cymaint o’r tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn (sef tir a ddangosir ar blan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr) ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.
a chaiff ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelir felly at y dibenion hynny neu at unrhyw ddibenion eraill sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig a’u gweithrediad.
23.—(1) Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol y cyfryw hawddfreintiau neu hawliau eraill dros dir y cyfeirir ato yn erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno, drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bodoli.
(2) Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 (tir na ellir ond caffael hawliau newydd ynddo) mae pwerau caffael gorfodol yr ymgymerwr wedi’i gyfyngu i gaffael y cyfryw hawliau newydd ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r tabl hwnnw.
(3) Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 2 (tir y gellir gosod cyfamodau cyfyngol drosto) o Atodlen 6 mae pŵer yr ymgymerwr o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) hefyd yn cynnwys pŵer i osod cyfamodau cyfyngol dros y tir at y dibenion a bennir mewn perthynas â’r tir yng ngholofn (3) o’r tabl.
(4) Yn ddarostyngedig i—
(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i hamnewidiwyd gan baragraff 5(7) o Atodlen 7 (addasu deddfiadau digolledu a phrynu gorfodol er mwyn creu hawliau newydd)); a
(b)Atodlen A1 i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan baragraff 7(7) o Atodlen 7),
pan fo’r ymgymerwr yn caffael hawl dros dir neu’n gosod cyfamod cyfyngol o dan baragraff (1), (2) neu (3), nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gaffael mwy o fuddiant yn y tir hwnnw.
(5) Mae Atodlen 7 yn cael effaith at ddiben addasu’r deddfiadau sy’n ymwneud â digolledu, a darpariaethau Deddf 1965 a Deddf 1981 wrth eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael yn orfodol o dan yr erthygl hon hawl dros dir drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol.
24.—(1) Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau nad yw wedi’i haddasu drwy ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn ac nad yw’n anghyson â darpariaethau’r Gorchymyn hwn, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—
(a)gan ei bod yn gymwys i bryniant gorfodol y mae Deddf Caffael Tir 1981(1) yn gymwys iddo; a
(b)fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.
(2) Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau y mae’n cael ei chymhwyso, yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.
(3) Hepgorer adran 4 (sy’n darparu terfyn amser ar gyfer prynu tir yn orfodol).
(4) Yn adran 4A(1)(2) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land Act 1981 (application to High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 4”, rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.
(5) Yn adran 11(1B)(3) (pwerau mynediad), mewn achos pan fo’r hysbysiad i drafod telerau yn ymwneud â chaffael hawddfraint neu hawl arall dros dir neu osod cyfamod cyfyngol yn unig, yn lle “3 months” rhodder “1 month”.
(6) Yn adran 11A(4) (pwerau mynediad: hysbysiadau mynediad pellach)—
(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”; a
(b)yn is-adran (2), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”.
(7) Yn adran 22(2) (darfodiad y terfyn amser ar gyfer arfer pŵer prynu gorfodol i beidio ag effeithio ar gaffael buddiannau a hepgorwyd o’r pryniant), yn lle “section 4 of this Act” rhodder “article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.
(8) Yn Atodlen 2A(5) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i brynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau)—
(a)rhodder paragraffau 1(2) a 14(2) yn lle—
“(2) But see article 26(3) (Power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021, which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule; and”
(b)ar ôl paragraff 29, mewnosoder—
30. In this Schedule, references to entering on and taking possession of land do not include doing so under article 28 (temporary use of land for construction of works) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021.”
25.—(1) Mae Deddf 1981 yn gymwys fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.
(2) Mae Deddf 1981, fel y’i cymhwyswyd gan baragraff (1), yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.
(3) Yn adran 5 (y dyddiad cynharaf ar gyfer weithredu datganiad), yn is-adran (2), hepgorer y geiriau o “, and this subsection” hyd at y diwedd.
(4) Hepgorer adran 5A(6) (terfyn amser ar gyfer datganiad breinio cyffredinol).
(5) Yn adran 5B(1)(7) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land 1981 (application to the High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 5A” rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.
(6) Yn adran 6(8) (hysbysiadau ar ôl gweithredu datganiad), yn is-adran (1)(b), yn lle “section 15 of, or paragraph 6 of Schedule 1 to, the Acquisition of Land Act 1981” rhodder “section 14A(9) of the Transport and Works Act 1992”.
(7) Yn adran 7(10) (hysbysiad deongliadol i drafod telerau), yn is-adran (1)(a), hepgorer “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.
(8) Yn Atodlen A1(11) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol), paragraff 1(2) —
“(2) But see article 26(3) (power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021 which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule.”
(9) Dehonglir cyfeiriadau at Ddeddf 1965 yn Neddf 1981 fel cyfeiriadau at Ddeddf 1965 fel y’u cymhwyswyd at gaffael tir o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir).
26.—(1) Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol gymaint o is-bridd y tir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) o erthygl 22 (pŵer i gaffael tir), neu’r cyfryw hawliau ynddo, ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno yn lle caffael y tir cyfan.
(2) Pan fo’r ymgymerwr yn caffael unrhyw ran o is-bridd tir o dan baragraff (1) neu hawliau ynddi, ni fydd yn ofynnol caffael buddiant mewn unrhyw ran arall o’r tir.
(3) Nid yw’r canlynol yn gymwys mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan baragraff (1) mewn perthynas ag is-bridd neu ofod awyr yn unig—
(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965));
(b)Atodlen A1 (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol) i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981)); ac
(c)adran 153(4A) (tir o dan falltod: bwriad i gaffael buddiant rhannol; prawf niwed sylweddol) Deddf 1990.
(4) Diystyrir paragraffau (2) a (3) pan fo’r ymgymerwr yn caffael daeargell seler, arch neu adeiledd arall sy’n rhan o dŷ, adeilad neu ffatri.
(5) Mae Atodlen 8 yn cynnwys darpariaeth sydd mewn achosion penodol yn cyfyngu’r pŵer o dan erthygl 22 i is-bridd neu danwyneb y tir sydd dros 9 metr o dan yr wyneb.
27.—(1) Caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw stryd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a meddiannu cymaint o’i his-bridd neu’r gofod awyr drosti ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig a chaiff ddefnyddio’r is-bridd neu’r gofod awyr at y dibenion hynny neu unrhyw ddiben arall sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y pŵer o dan baragraff (1) ei arfer mewn perthynas â stryd heb fod yn ofynnol i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o’r stryd neu unrhyw hawddfraint neu hawl yn y stryd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gan unrhyw berson sy’n berchennog neu’n feddiannydd tir y mae’r pŵer i feddiannu a roddir gan baragraff (1) yn cael ei arfer yn ei gylch heb i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o fuddiant y person hwnnw yn y tir, ac sy’n dioddef colled drwy arfer y pŵer hwnnw, yr hawl i gael digollediad sydd i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)unrhyw danffordd neu adeilad tanddaearol; neu
(b)unrhyw seler, daeargell, arch neu adeiledd arall mewn, ar neu o dan stryd sy’n rhan o ffryntiad adeilad ar y stryd.
(5) Nid yw digollediad yn daladwy o dan baragraff (3) i unrhyw berson sy’n ymgymerwr y mae adran 85 o Ddeddf 1991 yn gymwys iddo mewn perthynas â mesurau y bydd y costau a ganiateir ar eu cyfer yn cael eu dwyn yn unol â’r adran honno.
Mewnosodwyd gan adran 202(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).
Mewnosodwyd is-adran (1B) o adran 11 gan adran 186(1) a (2)(b) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Mewnosodwyd gan adran 186(3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Fel y’i mewnosodwyd gan adran 199(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 17 i’r ddeddf honno.
Mewnosodwyd gan adran 182(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Mewnosodwyd gan adran 202(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 52(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 7 o Atodlen 15 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Mewnosodwyd gan O.S. 2017/16.
Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 3 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Fel y’i mewnosodwyd gan baragraff 6 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).