xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Pwerau caffael

Pŵer i gaffael tir

22.  Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol—

(a)cymaint o’r tir a ddangosir ar blan y tir o fewn terfynau’r gwyro fel tir i’w gaffael yn orfodol ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig; a

(b)cymaint o’r tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn (sef tir a ddangosir ar blan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr) ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.

a chaiff ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelir felly at y dibenion hynny neu at unrhyw ddibenion eraill sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig a’u gweithrediad.

Pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol

23.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol y cyfryw hawddfreintiau neu hawliau eraill dros dir y cyfeirir ato yn erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno, drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bodoli.

(2Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 (tir na ellir ond caffael hawliau newydd ynddo) mae pwerau caffael gorfodol yr ymgymerwr wedi’i gyfyngu i gaffael y cyfryw hawliau newydd ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r tabl hwnnw.

(3Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 2 (tir y gellir gosod cyfamodau cyfyngol drosto) o Atodlen 6 mae pŵer yr ymgymerwr o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) hefyd yn cynnwys pŵer i osod cyfamodau cyfyngol dros y tir at y dibenion a bennir mewn perthynas â’r tir yng ngholofn (3) o’r tabl.

(4Yn ddarostyngedig i—

(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i hamnewidiwyd gan baragraff 5(7) o Atodlen 7 (addasu deddfiadau digolledu a phrynu gorfodol er mwyn creu hawliau newydd)); a

(b)Atodlen A1 i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan baragraff 7(7) o Atodlen 7),

pan fo’r ymgymerwr yn caffael hawl dros dir neu’n gosod cyfamod cyfyngol o dan baragraff (1), (2) neu (3), nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gaffael mwy o fuddiant yn y tir hwnnw.

(5Mae Atodlen 7 yn cael effaith at ddiben addasu’r deddfiadau sy’n ymwneud â digolledu, a darpariaethau Deddf 1965 a Deddf 1981 wrth eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael yn orfodol o dan yr erthygl hon hawl dros dir drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol.

Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965

24.—(1Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau nad yw wedi’i haddasu drwy ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn ac nad yw’n anghyson â darpariaethau’r Gorchymyn hwn, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—

(a)gan ei bod yn gymwys i bryniant gorfodol y mae Deddf Caffael Tir 1981(1) yn gymwys iddo; a

(b)fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(2Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau y mae’n cael ei chymhwyso, yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3Hepgorer adran 4 (sy’n darparu terfyn amser ar gyfer prynu tir yn orfodol).

(4Yn adran 4A(1)(2) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land Act 1981 (application to High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 4”, rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(5Yn adran 11(1B)(3) (pwerau mynediad), mewn achos pan fo’r hysbysiad i drafod telerau yn ymwneud â chaffael hawddfraint neu hawl arall dros dir neu osod cyfamod cyfyngol yn unig, yn lle “3 months” rhodder “1 month”.

(6Yn adran 11A(4) (pwerau mynediad: hysbysiadau mynediad pellach)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”; a

(b)yn is-adran (2), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”.

(7Yn adran 22(2) (darfodiad y terfyn amser ar gyfer arfer pŵer prynu gorfodol i beidio ag effeithio ar gaffael buddiannau a hepgorwyd o’r pryniant), yn lle “section 4 of this Act” rhodder “article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(8Yn Atodlen 2A(5) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i brynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau)—

(a)rhodder paragraffau 1(2) a 14(2) yn lle—

(2) But see article 26(3) (Power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021, which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule; and

(b)ar ôl paragraff 29, mewnosoder—

PART 4INTERPRETATION

30.  In this Schedule, references to entering on and taking possession of land do not include doing so under article 28 (temporary use of land for construction of works) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021.

Cymhwyso Deddf 1981

25.—(1Mae Deddf 1981 yn gymwys fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.

(2Mae Deddf 1981, fel y’i cymhwyswyd gan baragraff (1), yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3Yn adran 5 (y dyddiad cynharaf ar gyfer weithredu datganiad), yn is-adran (2), hepgorer y geiriau o “, and this subsection” hyd at y diwedd.

(4Hepgorer adran 5A(6) (terfyn amser ar gyfer datganiad breinio cyffredinol).

(5Yn adran 5B(1)(7) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land 1981 (application to the High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 5A” rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(6Yn adran 6(8) (hysbysiadau ar ôl gweithredu datganiad), yn is-adran (1)(b), yn lle “section 15 of, or paragraph 6 of Schedule 1 to, the Acquisition of Land Act 1981” rhodder “section 14A(9) of the Transport and Works Act 1992”.

(7Yn adran 7(10) (hysbysiad deongliadol i drafod telerau), yn is-adran (1)(a), hepgorer “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.

(8Yn Atodlen A1(11) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol), paragraff 1(2) —

(2) But see article 26(3) (power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021 which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule.

(9Dehonglir cyfeiriadau at Ddeddf 1965 yn Neddf 1981 fel cyfeiriadau at Ddeddf 1965 fel y’u cymhwyswyd at gaffael tir o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir).

Pŵer i Gaffael Is-bridd yn Unig

26.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol gymaint o is-bridd y tir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) o erthygl 22 (pŵer i gaffael tir), neu’r cyfryw hawliau ynddo, ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno yn lle caffael y tir cyfan.

(2Pan fo’r ymgymerwr yn caffael unrhyw ran o is-bridd tir o dan baragraff (1) neu hawliau ynddi, ni fydd yn ofynnol caffael buddiant mewn unrhyw ran arall o’r tir.

(3Nid yw’r canlynol yn gymwys mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan baragraff (1) mewn perthynas ag is-bridd neu ofod awyr yn unig—

(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965));

(b)Atodlen A1 (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol) i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981)); ac

(c)adran 153(4A) (tir o dan falltod: bwriad i gaffael buddiant rhannol; prawf niwed sylweddol) Deddf 1990.

(4Diystyrir paragraffau (2) a (3) pan fo’r ymgymerwr yn caffael daeargell seler, arch neu adeiledd arall sy’n rhan o dŷ, adeilad neu ffatri.

(5Mae Atodlen 8 yn cynnwys darpariaeth sydd mewn achosion penodol yn cyfyngu’r pŵer o dan erthygl 22 i is-bridd neu danwyneb y tir sydd dros 9 metr o dan yr wyneb.

Hawliau o dan neu dros strydoedd

27.—(1Caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw stryd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a meddiannu cymaint o’i his-bridd neu’r gofod awyr drosti ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig a chaiff ddefnyddio’r is-bridd neu’r gofod awyr at y dibenion hynny neu unrhyw ddiben arall sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y pŵer o dan baragraff (1) ei arfer mewn perthynas â stryd heb fod yn ofynnol i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o’r stryd neu unrhyw hawddfraint neu hawl yn y stryd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gan unrhyw berson sy’n berchennog neu’n feddiannydd tir y mae’r pŵer i feddiannu a roddir gan baragraff (1) yn cael ei arfer yn ei gylch heb i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o fuddiant y person hwnnw yn y tir, ac sy’n dioddef colled drwy arfer y pŵer hwnnw, yr hawl i gael digollediad sydd i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)unrhyw danffordd neu adeilad tanddaearol; neu

(b)unrhyw seler, daeargell, arch neu adeiledd arall mewn, ar neu o dan stryd sy’n rhan o ffryntiad adeilad ar y stryd.

(5Nid yw digollediad yn daladwy o dan baragraff (3) i unrhyw berson sy’n ymgymerwr y mae adran 85 o Ddeddf 1991 yn gymwys iddo mewn perthynas â mesurau y bydd y costau a ganiateir ar eu cyfer yn cael eu dwyn yn unol â’r adran honno.

Meddiannu Tir Dros Dro

Defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd

28.—(1Caiff yr ymgymerwr, mewn cysylltiad â chyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig—

(a)fynd ar—

(i)y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 9 (tir y gellir ei feddiannu dros dro) a’i feddiannu dros dro at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno; a

(ii)unrhyw dir arall o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir nad yw hysbysiad mynediad wedi cael ei gyflwyno yn ei gylch o dan adran 11(12) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965 (ac eithrio mewn cysylltiad â chaffael hawliau yn unig) ac nad yw datganiad wedi cael ei weithredu yn ei gylch o dan adran 4(13) (gweithredu datganiad) o Ddeddf 1981 a’i feddiannu dros dro;

(b)gwaredu unrhyw adeiladau a llystyfiant ar y tir hwnnw;

(c)adeiladu gweithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir hwnnw;

(d)adeiladu unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol fel y’i crybwyllir yn erthygl 3 (pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gweithfeydd); ac

(e)adeiladu unrhyw weithfeydd lliniaru ar y tir hwnnw.

(2Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(3Ni chaiff yr ymgymerwr, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddiannu unrhyw dir o dan yr erthygl hon—

(a)yn achos unrhyw dir a bennir ym mharagraff (1)(a)(i), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (4) o Atodlen 9; neu

(b)yn achos unrhyw dir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(ii), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y gweithfeydd neu ddiben arall y meddiannwyd y tir dros dro ar ei gyfer oni bai bod yr ymgymerwr, erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, wedi cyflwyno hysbysiad mynediad o dan adran 11 o Ddeddf 1965 neu wedi gwneud datganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 mewn perthynas â’r tir hwnnw.

(4Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr dynnu ymaith yr holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir; ond nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr—

(a)codi adeilad yn lle adeilad a dynnwyd ymaith o dan yr erthygl hon;

(b)adfer y tir y mae unrhyw weithfeydd parhaol wedi cael eu hadeiladu arno o dan baragraffau (1)(d) neu (1)(e);

(c)gwaredu unrhyw weithfeydd i gryfhau’r ddaear sydd wedi cael eu gosod ar y tir er mwyn hwyluso adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig; neu

(d)waredu unrhyw fesurau a osodwyd dros neu o amgylch cyfarpar yr ymgymerwr statudol i ddiogelu’r cyfarpar hwnnw rhag y gweithfeydd awdurdodedig.

(5Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(6Mae unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (5), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, i’w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(7Heb effeithio ar erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2)(14) (darpariaethau pellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965 nac o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn perthynas â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (5).

(8Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, nid yw’n ofynnol caffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(9Mae adran 13(15) (gwrthod rhoi meddiant i awdurdod caffael) o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro o dan yr erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).

Defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynnal a chadw sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—

(a)mynd ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a’i feddiannu dros dro os yw’r cyfryw feddiannu yn rhesymol ofynnol at ddiben cynnal a chadw’r gwaith neu unrhyw weithfeydd ategol sy’n gysylltiedig ag ef; a

(b)adeiladu’r cyfryw weithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y diben hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn awdurdodi’r ymgymerwr i feddiannu dros dro—

(a)unrhyw dŷ neu ardd sy’n eiddo i dŷ; neu

(b)unrhyw adeilad (heblaw am dŷ) os yw wedi’i feddiannu am y tro.

(3Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(4Caiff yr ymgymerwr ond parhau i feddiannu tir o dan yr erthygl hon am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i gynnal a chadw’r rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig y meddiannwyd y tir ar eu cyfer.

(5Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr waredu’r holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir.

(6Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(7Bydd unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (6), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, yn cael ei benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(8Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (6).

(9Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, ni fydd yn ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(10Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro yn unol â’r erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965).

(11Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod cynnal a chadw”, mewn perthynas â gwaith awdurdodedig, yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gwaith yn cael ei agor i’w ddefnyddio.

Ymgorffori’r cod mwynau

30.  Mae Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 (mwynau) wedi’u hymgorffori yn y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i’r addasiadau—

(a)yn lle “the acquiring authority” rhodder “the undertaker”;

(b)yn lle “undertaking” rhodder “authorised works”; ac

(c)yn lle “compulsory purchase order” rhodder “this Order”.

Diogelu hawliau i bysgota

31.—(1Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu’r perchenogion, y meddianwyr neu bersonau sydd fel arall â hawl berchenogol i bysgota y mae adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, neu arfer y pwerau a roddir i’r ymgymerwr gan y Gorchymyn hwn, yn cael effaith andwyol arnynt, am unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y cyfryw bersonau drwy adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu neu arfer y pwerau.

(2Rhaid i ddigollediad o dan baragraff (1) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Digolledu

Diystyru buddiannau a gwelliannau penodol

32.—(1Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson ar adeg caffael unrhyw dir oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys beidio ag ystyried—

(a)unrhyw fuddiant mewn tir; neu

(b)unrhyw ychwanegiad at werth unrhyw fuddiant mewn tir drwy godi unrhyw adeilad, cwblhau unrhyw weithfeydd neu wneud unrhyw welliant neu newid ar dir perthnasol,

os yw’r tribiwnlys wedi’i fodloni nad oedd creu’r buddiant, codi’r adeilad, cwblhau’r gweithfeydd na gwneud y gwelliant neu’r newid yn rhesymol angenrheidiol a’i fod wedi cael ei wneud gyda’r bwriad o gael digollediad neu fwy o ddigollediad.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “tir perthnasol” yw’r tir sy’n cael ei gaffael oddi wrth y person dan sylw neu unrhyw dir arall y mae a wnelo’r person hwnnw, neu yr oedd a wnelo’r person hwnnw ar adeg codi’r adeilad, cwblhau’r gweithfeydd neu wneud y gwelliant neu’r newid, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag ef.

Gwrthgyfrif ar gyfer ychwanegiad yng ngwerth tir a gadwyd

33.—(1Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn cysylltiad â chaffael unrhyw dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth y tir a gaffaelwyd felly unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd a fydd yn cronni i’r person hwnnw drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw hawliau newydd dros dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol), rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth yr hawliau a gaffaelwyd felly—

(a)unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir y mae’r hawliau newydd drosto’n ofynnol; a

(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd,

a fydd yn cronni iddo drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(3Mae Deddf 1961 yn cael effaith, yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn ddeddfiad lleol at ddibenion y Ddeddf honno.

Atodol

Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill

34.—(1Mae unrhyw weithgarwch awdurdodedig sy’n digwydd ar dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir (p’un a gynhelir y gweithgarwch gan yr ymgymerwr, neu gan unrhyw berson sy’n deillio teitl gan yr ymgymerwr neu gan gontractwyr, gweision neu asiantau’r ymgymerwr) wedi’i awdurdodi gan y Gorchymyn hwn os y’i gwneir yn unol â thelerau’r Gorchymyn hwn, er ei fod yn cynnwys—

(a)ymyrraeth â diddordeb neu hawl y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo neu iddi; neu

(b)torri cyfyngiad ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.

(2Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithgarwch awdurdodedig” yw—

(a)adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig;

(b)arfer unrhyw bŵer a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn; neu

(c)ddefnyddio unrhyw dir (gan gynnwys defnyddio tir dros dro).

(3Mae’r buddiannau a’r hawliau y mae’r erthygl hon yn gymwys iddynt yn cynnwys unrhyw hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.

(4Pan fo unrhyw fuddiant, hawl neu gyfyngiad yn cael ei drechu neu ei threchu gan baragraff (1), mae digollediad—

(a)yn daladwy o dan adran 7 (mesur digollediad yn achos gwahanu tir) neu adran 10 (darpariaeth bellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965; a

(b)i’w asesu yn yr un modd ac yn ddarostyngedig i’r un rheolau ag yn achos digolledu arall o dan yr adrannau hynny—

(i)pan fo’r digollediad i’w amcangyfrif mewn cysylltiad â phryniant o dan y Ddeddf honno; neu

(ii)pan fo’r niwed yn codi o gwblhau gweithfeydd ar y tir a gaffaelwyd o dan y Ddeddf honno neu o ddefnyddio’r cyfryw dir.

(5Pan fo person sy’n deillio teitl o dan yr ymgymerwr a gaffaelodd y tir dan sylw—

(a)yn atebol i dalu digollediad yn rhinwedd paragraff (4); a

(b)yn methu â chyflawni’r atebolrwydd hwnnw;

mae’r atebolrwydd yn orfodadwy yn erbyn yr ymgymerwr.

(6Nid oes dim yn yr erthygl hon i’w ddehongli fel pe bai’n awdurdodi unrhyw weithred neu anwaith ar ran unrhyw berson sy’n agored i gyfraith drwy achos cyfreithiol unrhyw berson ar unrhyw seiliau heblaw am y cyfryw ymyrraeth neu’r tor cyfyngiad a grybwyllir ym mharagraff (1).

Hawliau preifat dros dir

35.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl tramwy breifat dros dir sy’n cael ei gaffael yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn—

(a)o’r dyddiad y mae’r ymgymerwr yn caffael y tir, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb; neu

(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(16) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965,

pa un bynnag sydd gynharaf.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl breifat dros dir sy’n ddarostyngedig i gaffael hawliau’n orfodol neu osod cyfamodau cyfyngol o dan y Gorchymyn hwn i’r graddau y byddai parhad y cyfryw hawliau preifat yn anghyson ag arfer hawl neu fyrdwn y cyfamod cyfyngol—

(a)o’r dyddiad y caffaelir hawl neu fuddiant y cyfamod cyfyngol sy’n cael ei osod o blaid yr ymgymerwr, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb;

(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965; neu

(c)ar adeg cychwyn unrhyw weithgarwch a awdurdodir gan y Gorchymyn sy’n ymyrryd â’r hawliau hynny sy’n eu torri,

pa un bynnag sydd gynharaf.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae’r ymgymerwr yn ei feddiannu dros dro o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei hatal a byddant yn anorfodadwy cyhyd ag y bo’r ymgymerwr yn parhau i feddiannu’r tir yn gyfreithlon.

(4Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat neu oherwydd gosod unrhyw gyfamod cyfyngol o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad, i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 (penderfynu ar gwestiynau sy’n ymwneud â digolledu y mae anghydfod yn ei gylch) o Ddeddf 1961.

(5Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl y mae adran 271 neu 272 (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc.) o Ddeddf 1990(17) yn gymwys iddi.

(6Mae paragraffau (1) i (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)unrhyw hysbysiad a roddir gan yr ymgymerwr cyn—

(i)cwblhau caffael y tir neu gaffael yr hawliau neu osod cyfamodau cyfyngol dros y tir neu sy’n effeithio ar y tir;

(ii)i’r ymgymerwr ei feddiannu;

(iii)i’r ymgymerwr fynd arno; neu

(iv)i’r ymgymerwr ei feddiannu dros dro,

nad oes unrhyw un na phob un o’r paragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; nac

(b)unrhyw gytundeb a wneir ar unrhyw adeg rhwng yr ymgymerwr a’r person y mae’r hawl tramwy dan sylw wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo.

(7Os yw’r cyfryw gytundeb ag y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b)—

(a)yn cael ei wneud â pherson y mae’r hawl tramwy wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo; ac

(b)yn cael ei fynegi i gael effaith hefyd er budd y rhai sy’n deillio teitl gan neu o dan y person hwnnw.

mae’n effeithiol mewn cysylltiad â’r personau sy’n deillio teitl felly, p’un a oedd y teitl yn deillio cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.

(8Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys unrhyw hawl tramwy, ymddiriedolaeth, nodwedd, hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynghylch y defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract, cytundeb neu ymgymeriad sy’n cael yr effaith honno.

Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael

36.—(1Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym—

(a)ni ellir cyflwyno unrhyw hysbysiad i drafod telerau o dan Ran 1 o Ddeddf 1965 fel y’i cymhwysir at gaffael tir gan erthygl 24 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965); a

(b)ni ellir gweithredu unrhyw ddatganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 fel y’i cymhwysir gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981).

(2Mae’r pwerau a roddir gan erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd) yn peidio ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ac eithrio nad oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag parhau i feddiannu tir ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os aethpwyd ar y tir a’i feddiannu cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(2)

Mewnosodwyd gan adran 202(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

(3)

Mewnosodwyd is-adran (1B) o adran 11 gan adran 186(1) a (2)(b) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(4)

Mewnosodwyd gan adran 186(3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(5)

Fel y’i mewnosodwyd gan adran 199(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 17 i’r ddeddf honno.

(6)

Mewnosodwyd gan adran 182(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(7)

Mewnosodwyd gan adran 202(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(8)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 52(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 7 o Atodlen 15 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(9)

Mewnosodwyd gan O.S. 2017/16.

(10)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 3 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(11)

Fel y’i mewnosodwyd gan baragraff 6 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

(12)

Diwygiwyd adran 11 gan adran 34(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac Atodlen 4 i’r ddeddf honno, adran 3 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a Rhan 1 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, adran 14 o Fesur Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (Rhif 1) a pharagraff 12(1) o Atodlen 5 i’r mesur hwnnw, adrannau 186(2), 187(2) a 188 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 6 o Atodlen 14 a pharagraff 3 o Atodlen 16 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(13)

Diwygiwyd adran 4 gan adrannau 184 a 185 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18 i’r ddeddf honno.

(14)

Diwygiwyd adran 10 drwy adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 13(2) o Atodlen 2 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(15)

Diwygiwyd adran 13 gan adrannau 62(3), 139 a 146 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15) a pharagraffau 27 a 28 o Atodlen 13 a Rhan 3 o Atodlen 23 i’r ddeddf honno.

(16)

Diwygiwyd adran 11 gan adran 34(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac Atodlen 4 i’r ddeddf honno, adran 3 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a Rhan 1 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, adran 14 o Fesurau Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (Rhif 1) a pharagraff 12(1) o Atodlen 5 i’r mesur hwnnw, adrannau 186(2), 187(2) a 188 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraff 6 o Atodlen 14 a pharagraff 3 o Atodlen 16 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(17)

Diwygiwyd adran 272 gan baragraff 103(1) a (2) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21).