19.—(1) Os oes unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau parhaol neu dros dro i eiddo rheilffordd yn rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu yn ystod y cyfnod o 24 mis ar ôl cwblhau’r gwaith hwnnw er mwyn sicrhau diogelwch eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffordd Network Rail, caiff y cyfryw newidiadau ac ychwanegiadau gael eu cyflawni gan Network Rail, ac os yw Network Rail yn rhoi hysbysiad rhesymol i’r ymgymerwr o’i fwriad i gyflawni’r cyfryw newidiadau neu ychwanegiadau (y mae’n rhaid iddynt gael eu pennu yn yr hysbysiad), rhaid i’r ymgymerwr dalu cost resymol y newidiadau a’r ychwanegiadau hynny i Network Rail gan gynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gyfryw newidiadau ac ychwanegiadau ag y bo’n barhaol, swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cynnydd mewn costau y gellir disgwyl y bydd Network Rail yn mynd iddynt yn rhesymol wrth gynnal a chadw, gweithio a, phan fo’n angenrheidiol, adnewyddu unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau.
(2) Os yw Network Rail, pan fo’r ymgymerwr yn adeiladu gwaith penodedig, yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig sydd, ym marn y peiriannydd, yn peryglu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn penderfynu bod y rhan honno o’r gwaith penodedig i’w hadeiladu, rhaid i Network Rail ymgymryd ag adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig a rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gymeradwyaeth o’r gwaith penodedig o dan baragraff 15(1), dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy gwblhau’r gwaith penodedig gan Network Rail.
(3) Rhaid i’r peiriannydd, mewn cysylltiad â’r symiau wedi eu cyfalafu y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn a pharagraff 20(a) ddarparu’r cyfryw fanylion am y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r symiau hynny ag y caiff yr ymgymerwr yn rhesymol ofyn amdanynt.
(4) Os bydd cost cynnal a chadw, gweithio neu adnewyddu eiddo rheilffordd yn lleihau o ganlyniad i unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau, rhaid i swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cyfryw arbedion gael ei wrthgyfrif yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan yr ymgymerwr i Network Rail o dan y paragraff hwn.