27. Wrth asesu unrhyw symiau sy’n daladwy i Network Rail o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gynnydd yn y symiau a hawlir y gellir ei briodoli i unrhyw gam a gymerir gan Network Rail neu unrhyw gytundeb y mae Network Rail yn ymrwymo iddo os nad oedd y cam hwnnw na’r cytundeb hwnnw yn rhesymol angenrheidiol a bod Network Rail wedi cymryd y cam hwnnw neu wedi ymrwymo i’r cytundeb hwnnw gyda’r bwriad o gael yr ymgymerwr i dalu’r symiau hynny o dan y Rhan hon neu o gynyddu’r symiau sydd felly’n daladwy.