ATODLEN 11Darpariaethau Diogelu

RHAN 2Diogelu Network Rail Infrastructure Limited

28.

Caiff yr ymgymerwr a Network Rail, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth Network Rail â thelerau ei drwydded rhwydwaith, ymrwymo i gytundebau, a’u gweithredu, ar gyfer trosglwyddo i’r ymgymerwr—

(a)

unrhyw eiddo rheilffordd a ddangosir ar blaniau gweithfeydd a phlan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;

(b)

unrhyw diroedd, gweithfeydd neu eiddo arall a ddelir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfryw eiddo rheilffordd; ac

(c)

unrhyw hawliau a rhwymedigaethau (boed yn rhai statudol ai peidio) sydd gan Network Rail sy’n ymwneud ag unrhyw eiddo rheilffordd.