- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Pan fo’r ymgymerwr yn rhoi i ymgymerwr cyfleustod, yn unol â’r Rhan hon, gyfleusterau a hawliau i adeiladu a chynnal a chadw cyfarpar amgen yn nhir yr ymgymerwr yn lle’r cyfarpar sydd i’w dynnu ymaith, rhaid i’r cyfleusterau a’r hawliau hynny gael eu rhoi ar y cyfryw delerau ac amodau ag y cytunir arnynt rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw neu, yn niffyg cytundeb, ag y’u setlir drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu).
(2) Wrth setlo’r telerau ac amodau hynny mewn cysylltiad â’r cyfarpar amgen sydd i’w adeiladu yn neu ar hyd y prosiect awdurdodedig, rhaid i’r cymrodeddwr—
(a)gweithredu pob un o ofynion rhesymol yr ymgymerwr o ran sicrhau diogelwch a gweithrediad effeithlon y prosiect awdurdodedig a sicrhau unrhyw newidiadau neu addasiadau canlyniadol i’r cyfarpar amgen ag sy’n ofynnol er mwyn atal ymyriadau â gweithfeydd awdurdodedig yr ymgymerwr; a
(b)i’r graddau y mae’n rhesymol ac yn ymarferol gwneud hynny o dan amgylchiadau’r achos penodol, weithredu telerau ac amodau, os o gwbl, sy’n gymwys i’r cyfarpar a adeiladwyd yn neu ar hyd y prosiect awdurdodedig y mae’r cyfarpar amgen i’w roi yn ei le.
(3) Os yw’r cyfleusterau a’r hawliau sydd i’w rhoi gan yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarpar amgen, a’r telerau ac amodau y mae’r cyfleusterau a’r hawliau hynny i’w rhoi yn ddarostyngedig iddynt, ym marn y cymrodeddwr, yn llai ffafriol ar y cyfan i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw na’r cyfleusterau a’r hawliau y mae’n eu mwynhau mewn cysylltiad â’r cyfarpar sydd i’w dynnu ymaith a’r telerau ac amodau y mae’r cyfleusterau a’r hawliau hynny yn ddarostyngedig iddynt, rhaid i’r cymrodeddwr wneud y cyfryw ddarpariaeth i’r ymgymerwr ddigolledu’r ymgymerwr cyfleustod ag yr ymddengys yn rhesymol i’r cymrodeddwr wedi iddo roi sylw i holl amgylchiadau’r achos penodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: