Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Adran 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021, Adran 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Diwygiadau i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011LL+C

2.—(1Mae Atodlen 5 (cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’i haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig) i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 5 (rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio)—

(a)yn is-baragraff (3)—

(i)yn lle “O 1 Ionawr 2022” rhodder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3A), o 1 Ionawr 2022”;

(ii)ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad yw is-baragraff (2)(c) eisoes yn ymdrin â hwy”;

(b)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(3A) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i nwyddau perthnasol—

(a)sydd o fewn cwmpas Erthygl 7 neu Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sydd wedi eu hesemptio rhag rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bersonau naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(2); neu

(b)a fewnforir i Brydain Fawr o Weriniaeth Iwerddon pan fodlonir yr amod ym mharagraff (3B).

(3B) Yr amod yw fod y nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac at y dibenion hyn cymerir bod nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon os ydynt wedi eu prosesu yno.

(3Yn lle paragraff 8(a) (addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion) rhodder—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)“yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;

(ii)“neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

(4Yn lle paragraff 9 (addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid) rhodder—

Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1)—

(a)“yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;

(b)“neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5,” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 30.12.2021, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mewnosodwyd Atodlen 5 gan reoliad 32 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Diwygiwyd paragraff 5(3) gan reoliad 2 o O.S. 2021/384 (Cy. 122), O.S. 2021/847 (Cy. 197) ac O.S. 2021/1094 (Cy. 260).

(2)

EUR 2019/2122, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1482 a 2021/453.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources