xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1480 (Cy. 382)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Bwyd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 11.03 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.45 p.m. ar 22 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1); a

(b)paragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(2).

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad(3).

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Rhagfyr 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011LL+C

2.—(1Mae Atodlen 5 (cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’i haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig) i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 5 (rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio)—

(a)yn is-baragraff (3)—

(i)yn lle “O 1 Ionawr 2022” rhodder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3A), o 1 Ionawr 2022”;

(ii)ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad yw is-baragraff (2)(c) eisoes yn ymdrin â hwy”;

(b)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(3A) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i nwyddau perthnasol—

(a)sydd o fewn cwmpas Erthygl 7 neu Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sydd wedi eu hesemptio rhag rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bersonau naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(5); neu

(b)a fewnforir i Brydain Fawr o Weriniaeth Iwerddon pan fodlonir yr amod ym mharagraff (3B).

(3B) Yr amod yw fod y nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac at y dibenion hyn cymerir bod nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon os ydynt wedi eu prosesu yno.

(3Yn lle paragraff 8(a) (addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion) rhodder—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)“yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;

(ii)“neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

(4Yn lle paragraff 9 (addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid) rhodder—

Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1)—

(a)“yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;

(b)“neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5,” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.12.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021LL+C

F13.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

Am 11.03 a.m. ar 22 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan:

(a)paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) (“Rheoliadau 2011”); a

(b)paragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn sicrhau cysondeb ag Erthygl 56A o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, fel y’i mewnosodwyd at y dibenion a grybwyllir ym mharagraff 3 o Atodiad 6, ac fel y’i diwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/1443).

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn galluogi pwerau gorfodi i barhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol estynedig ac eithrio mewn safleoedd rheoli ar y ffin mewn cysylltiad ag anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/1 (Cy. 1)) er mwyn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir fod wedi eu rhewi’n ddwfn, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cyfnod graddoli trosiannol estynedig. Mae’r estyniad hwn tan hanner nos ar 30 Mehefin 2022. Cafodd y dyddiad hwn ei ddiwygio yn flaenorol gan Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/376 (Cy. 117)) a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/977 (Cy. 231)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd paragraff 11A yn Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639 (Cy. 344)).

(2)

2018 p. 16; gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraff 53(2) o Ran 2 o Atodlen 5 iddi.

(3)

Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler paragraffau 7 a 38 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(4)

Mewnosodwyd Atodlen 5 gan reoliad 32 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Diwygiwyd paragraff 5(3) gan reoliad 2 o O.S. 2021/384 (Cy. 122), O.S. 2021/847 (Cy. 197) ac O.S. 2021/1094 (Cy. 260).

(5)

EUR 2019/2122, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1482 a 2021/453.