- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Pridiannau Tir, Cymru
Gwnaed
12 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Chwefror 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
1.—(1) Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheolau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 ond nid yw rheolau 2, 3, 4 a 5 ond yn cael effaith mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, ar y dyddiad y daw Rhannau 1 i 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015(3) i rym mewn perthynas â’r ardal honno.
(3) Yn y Rheolau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “y prif Reolau” (“the principal Rules”) yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018(4);
mae i “tir” yr un ystyr ag a roddir i “land” yn adran 16 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975;
ystyr “tystysgrif ddiffiniol” (“definitive certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir gan yr Uwch Dribiwnlys o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf Hawliau Golau 1959(5).
2. Y ffioedd am y gwasanaethau a bennir yn yr Atodlen yw’r rheini a nodir yn yr Atodlen honno ac maent yn daladwy i’r Prif Gofrestrydd Tir yn unol â rheol 3.
3.—(1) Mae’r ffioedd yn daladwy wrth ddarparu’r cais neu’r gofyniad, neu wrth gyflwyno’r dystysgrif ddiffiniol, fel sy’n briodol.
(2) Rhaid i’r ffioedd gael eu talu drwy gerdyn credyd neu gerdyn debyd ac eithrio pan fo’r Prif Gofrestrydd Tir yn caniatáu fel arall neu pan fo paragraff (3) neu (4) yn gymwys.
(3) Pan fo cytundeb rhwng y ceisydd neu’r person sy’n gofyn am y gwasanaeth a’r Prif Gofrestrydd Tir, caniateir talu ffi drwy ddebyd uniongyrchol i unrhyw gyfrif banc Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi a gyfarwyddir gan y Prif Gofrestrydd Tir o bryd i’w gilydd.
(4) Pan fo cais neu ofyniad yn cael ei wneud, neu dystysgrif ddiffiniol yn cael ei chyflwyno, heblaw drwy ddefnyddio dull electronig o gyfathrebu, caniateir talu’r ffi drwy siec neu archeb bost, wedi ei chroesi a’i gwneud yn daladwy i Gofrestrfa Tir Ei Mawrhydi.
4. Mae rheol 14 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977 ac Atodlen 3 iddynt wedi eu dirymu(6).
5.—(1) Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol 15 (dirymiadau)—
(a)ar ddechrau paragraff (1) hepgorer y geiriau “Subject to paragraph (2)”; a
(b)hepgorer paragraff (2).
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2021
Rheol 2
Gwasanaeth | Ffi | |
---|---|---|
(1) | Cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan reol 4 o’r prif Reolau | £18 |
(2) | Amrywio cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) o’r prif Reolau | £18 |
(3) | Canslo cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) o’r prif Reolau | £18 |
(4) | Amrywio cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(6) o’r prif Reolau (wedi cyflwyno tystysgrif ddiffiniol) | £18 |
(5) | Chwiliad swyddogol o’r gofrestr (gan gynnwys dyroddi tystysgrif swyddogol o chwiliad) o dan adran 9(1) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 | £15; neu £0 os darperir y gofyniad o fewn 6 mis i ddarparu gofyniad cynharach gan yr un person am chwiliad swyddogol mewn cysylltiad â’r un tir, y talwyd y ffi a ragnodwyd amdano. |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)
Mae’r Rheolau hyn yn rhagnodi’r ffioedd sy’n daladwy i’r Prif Gofrestrydd Tir am amrywiol wasanaethau sy’n ymwneud â phridiannau tir lleol sy’n effeithio ar dir yng Nghymru. Darperir y gwasanaethau hynny o dan Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018. Mae’r ffioedd a ragnodir yn y Rheolau hyn yn disodli’r ffioedd a bennir gan reol 14 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977 ac Atodlen 3 iddynt am wasanaethau tebyg sy’n ymwneud â phridiannau tir lleol a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r Rheolau hyn yn cael effaith yn ardal weinyddol awdurdod lleol ar neu ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir gan y Prif Gofrestrydd Tir i’r awdurdod lleol hwnnw yn unol â Rhan 4 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015.
Mae’r gwasanaethau y mae ffioedd yn daladwy amdanynt wedi eu nodi yn yr Atodlen. Mae rhesi (1) i (4) yn wasanaethau mewn cysylltiad â hysbysiadau rhwystro golau, sy’n fath penodol o bridiant tir lleol. O dan baragraff (5), mae ffi yn daladwy am chwiliad swyddogol o’r gofrestr. Ond nid yw’r ffi honno’n daladwy os ceir cais am chwiliad o’r fath o fewn 6 mis i gais cynharach gan yr un person, mewn perthynas â’r un tir, y talwyd ffi amdano.
Mae rheol 3 yn rhagnodi pa bryd y mae’r ffioedd am y gwasanaethau hyn yn daladwy a sut mae talu’r ffioedd.
Mae rheol 4 yn dirymu rheol 14 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977 ac Atodlen 3 iddynt fel y maent yn gymwys i dir yng Nghymru.
O ganlyniad i reol 4, mae’r Rheolau hyn yn diwygio Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 er mwyn sicrhau eglurder ynghylch dirymu Rheolau Pridiannau Tir Lleol 1977.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheolau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheolau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Phartneriaethau’r Gweithlu, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1975 p. 76. Amnewidiwyd adran 14(1)(h) gan adran 34(1) a (2)(a) o Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7) a pharagraff 13(2)(d) o Atodlen 5 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Arglwydd Ganghellor o dan adran 14(1), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r pŵer i wneud rheolau ar gyfer rhagnodi ffioedd a’r dull o dalu ffioedd, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044) ac mae bellach wedi ei breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Gweler paragraff 40(3) a (4) o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7) sy’n darparu na fydd rheolau a wneir o dan adran 14 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 ond yn cael effaith mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol ar neu ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir gan y Prif Gofrestrydd Tir i’r awdurdod lleol hwnnw yn unol â pharagraff 40(1) o’r Atodlen honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: