RHAN 2Diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â chyrraedd o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt
Mewnosod Rhan 2B yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol3.
“Rhan 2BGofynion profi mandadol
Gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru6B.
(1)
Mae’r rheoliad hwn a rheoliad 6C yn gymwys i berson (“P”) 5 oed neu drosodd sy’n ddarostyngedig i ofyniad ynysu o dan reoliad 7 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig) neu 8 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig).
(2)
Yn y Rhan hon—
(a)
“prawf diwrnod 2” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C;
(b)
“prawf diwrnod 8” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 2 o Atodlen 1C;
(c)
“darparwr prawf cyhoeddus” yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20063, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 20064, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 19785, neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 19726.(3)
Cyn cyrraedd Cymru, rhaid i P drefnu â darparwr prawf cyhoeddus i gymryd—
(a)
prawf diwrnod 2, a
(b)
prawf diwrnod 8,
ar ôl i P gyrraedd Cymru.
(4)
Ond nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (3) os yw person arall wedi trefnu’r profion ar ran P cyn i P gyrraedd Cymru.
(5)
Pan fo P yn blentyn sy’n cyrraedd Cymru gyda pherson (“C”) sydd â chyfrifoldeb dros P—
(a)
(oni bai bod paragraff (4) yn gymwys i P) rhaid i C drefnu profion yn unol â pharagraff (3) ar ran P, a
(b)
nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (3).
(6)
Nid yw prawf i’w drin fel pe bai wedi ei drefnu yn unol â’r rheoliad hwn oni bai—
(a)
bod y person sy’n trefnu’r prawf wedi hysbysu’r darparwr prawf cyhoeddus bod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, a
(b)
bod yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1B wedi ei darparu i’r darparwr prawf cyhoeddus mewn perthynas â P.
(7)
Pan drefnir y profion, rhaid i’r darparwr prawf cyhoeddus ddarparu cyfeirnod prawf—
(a)
i P, a
(b)
i unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.
(8)
Os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo rhaid i P, neu C os yw P yn blentyn, ddarparu cyfeirnod y prawf neu dystiolaeth arall i’r swyddog fod y profion wedi eu trefnu ar ran P.
Gofyniad i gymryd profion6C.
(1)
Wrth gyrraedd Cymru, rhaid i P gymryd—
(a)
prawf diwrnod 2, a weinyddir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(b)
prawf diwrnod 8, a weinyddir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, heb fod yn gynharach na diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2)
Ond nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys pan fo prawf diwrnod 2 P yn cynhyrchu canlyniad positif.
(3)
Pan fo P yn blentyn, rhaid i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb dros P sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod P yn cydymffurfio â pharagraff (1).
(4)
Pan na fo P yn cymryd prawf diwrnod 2 fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf arall sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2.
(5)
Pan gymerir prawf arall yn lle prawf diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai P wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn.
Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion6D.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yn methu â chymryd prawf diwrnod 2 yn unol â rheoliad 6C(1)(a) ac yn methu â chymryd prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1)(b), neu
(b)
yn cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â rheoliad 6C(1)(a) (sy’n negyddol neu’n amhendant) ond yn methu â chymryd prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1)(b).
(2)
Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(3)
Ond pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a—
(a)
bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6C;
(b)
bod y canlyniad yn negyddol, mae rheoliad 6G yn gymwys fel pe bai—
(i)
P wedi cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1), a
(ii)
bod y ddau brawf yn negyddol.
(4)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf diwrnod 8 a gymerir—
(a)
cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond
(b)
cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
Goblygiadau canlyniad prawf positif6E.
Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6C yn bositif—
(a)
nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru), a, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20207 yn gymwys mewn perthynas â P, a(b)
diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
Goblygiadau canlyniad positif i berson sy’n preswylio yn yr un fangre6F.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6C yn bositif a bod P yn preswylio gyda pherson arall (“A”)—
(a)
sydd o dan ofyniad i ynysu o dan reoliad 7 neu 8, a
(b)
y byddai ei ddiwrnod ynysu olaf, oni bai am y rheoliad hwn, yn cael ei bennu yn unol â rheoliad 12.
(2)
Diwrnod ynysu olaf A o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf A).
(3)
Ond nid yw hyn yn gymwys pan fo—
(a)
y prawf positif y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) yn brawf diwrnod 8 a gymerwyd gan P yn unol â rheoliad 6C(1)(b), a
(b)
A wedi cael canlyniad positif i brawf diwrnod 2 a gymerodd A yn unol â rheoliad 6C(1)(a).
Goblygiadau peidio â chael canlyniad prawf diwrnod 8 cyn diwedd y cyfnod ynysu6G.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yn cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1),
(b)
yn cael canlyniad negyddol i’r prawf diwrnod 2, ac
(c)
heb gael canlyniad y prawf diwrnod 8 cyn diwedd diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 (fel y’i pennir o dan reoliad 12).
(2)
Os yw canlyniad prawf diwrnod 8 P yn negyddol, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw’r diwrnod y mae P yn cael canlyniad y prawf diwrnod 8 (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant6H.
(1)
Pan fo canlyniad prawf y mae person (“P”) yn ei gymryd yn unol â rheoliad 6C yn amhendant, pennir diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yn unol â pharagraff (2) (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(2)
Diwrnod ynysu olaf P yw—
(a)
diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf, neu
(b)
pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn negyddol, y diweddaraf o’r canlynol—
(i)
diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf, neu
(ii)
y diwrnod y mae P yn cael y canlyniad negyddol, neu
(c)
pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn bositif, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
(3)
Pan fo paragraff (2)(c) yn gymwys, nid yw’n ofynnol i P gymryd y prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C.
(4)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)
prawf diwrnod 8 a gymerir yn unol â rheoliad 6C(1)(b);
(b)
prawf diwrnod 8 a gymerir—
(i)
cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond
(ii)
cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
Profion ac eithrio yn unol â’r Rheoliadau hyn6I.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a)
P yn cymryd prawf diwrnod 2 sy’n negyddol,
(b)
tra bo P yn ynysu yn unol â rheoliad 7 neu 8, mae P yna’n cymryd prawf ac eithrio yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac
(c)
hysbysir P bod y prawf yn bositif.
(2)
Mae’n peidio â bod yn ofynnol i P ynysu yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn gymwys mewn perthynas â P.
Codi tâl am brofion6J.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru neu berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru osod tâl mewn cysylltiad â phrofion diwrnod 2 neu brofion diwrnod 8.
(2)
O ran Gweinidogion Cymru—
(a)
rhaid iddynt gyhoeddi manylion y taliadau mewn ffordd y maent yn ystyried ei bod yn briodol, a
(b)
cânt adennill unrhyw swm sy’n ddyledus gan berson yn unol â thâl fel dyled.”