xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad gynnwys asesiad o’r materion hynny a bennir yn yr Atodlen.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth dros y cyfnod ers cyhoeddi’r asesiad poblogaeth blaenorol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Mehefin 2022 [F1(yr adroddiad cyntaf)].
[F2(2) Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi eu hail adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Medi 2027.
(3) Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar sefydlogrwydd y farchnad fesul ysbaid nad yw’n fwy na phum mlynedd erbyn 1 Medi.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu mewnosod (31.12.2024) gan Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/1238), rhlau. 1(2), 10(a)
F2Rhl. 4(2)(3) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 4(2) (31.12.2024) gan Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/1238), rhlau. 1(2), 10(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Rhaid cyhoeddi’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad mewn fformat electronig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)