xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335))) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”.
Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817) (Cy. 179);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840) (Cy. 185);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868) (Cy. 190);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886) (Cy. 196);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917) (Cy. 205);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944) (Cy. 210);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962) (Cy. 216);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981) (Cy. 220);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015) (Cy. 226);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042) (Cy. 231);
Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080) (Cy. 243);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098) (Cy. 249);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133) (Cy. 258);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165) (Cy. 263);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191) (Cy. 269);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020 (O.S. 2020/1223) (Cy. 277);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232) (Cy. 278);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237) (Cy. 279);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288) (Cy. 286);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329) (Cy. 295);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (O.S. 2020/1362) (Cy. 301);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477) (Cy. 316);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1521) (Cy. 325);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020 (O.S. 2020/1602) (Cy. 332); a
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645) (Cy. 345).
Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610) (Cy. 336);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623) (Cy. 340); a
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645) (Cy. 345).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.
Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor y cofnodion ar gyfer Dinas Jerwsalem, Gweriniaeth Botswana, Israel, Mauritius a Seychelles.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhannau 3 a 3B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac yn mewnosod Rhan 3C ac Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn hepgor rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gosod rheolau arbennig ar unrhyw berson sy’n teithio o Dde Affrica ac aelodau o aelwyd y person hwnnw. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth arbed mewn cysylltiad â hepgor rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 6 yn hepgor rheoliad 12D yn Rhan 3B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliadau 12E a 12F ac Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 7(1) yn mewnosod darpariaeth newydd sy’n ymwneud â mesurau ychwanegol ar gyfer gwledydd a thiriogaethau penodedig yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ar ffurf rheoliad 12E newydd. Mae’r rheoliad 12E newydd yn debyg i’r rheoliad 12C blaenorol, ond nid yw’n benodol i Dde Affrica. Yn hytrach, mae’n gosod mesur ychwanegol ar wledydd a thiriogaethau a restrir yn yr Atodlen 3A newydd. Mae rheoliad 12E yn darparu, pan fo person wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth benodedig yn ystod y 10 niwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar 9 Ionawr 2021 neu wedi hynny, ei bod yn ofynnol i’r person ac aelodau ei aelwyd ynysu. At hynny, nid yw’r categorïau o bersonau esempt fel y’u disgrifir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, a chaiff person adael ynysiad o dan amgylchiadau mwy cyfyngedig. Mae rheoliad 7(1) hefyd yn mewnosod rheoliad 12F newydd, sy’n gosod cyfyngiad ar awyrennau a llestrau sy’n cyrraedd yn uniongyrchol o wlad a restrir yn yr Atodlen 3A newydd.
Mae rheoliad 7(2) yn mewnosod Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n rhestru’r gwledydd a’r tiriogaethau penodedig hynny sy’n ddarostyngedig i’r mesurau ychwanegol yn rheoliadau 12E a 12F o’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 7(2) yn rhestru’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn Atodlen 3A: Gweriniaeth Angola, Gweriniaeth Botswana, Gweriniaeth De Affrica, Gweriniaeth Malaŵi, Gweriniaeth Mauritius, Gweriniaeth Mozambique, Gweriniaeth Namibia, Gweriniaeth Seychelles, Gweriniaeth Zambia, Gweriniaeth Zimbabwe, Teyrnas Eswatini a Theyrnas Lesotho.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn—
(a)gosod gofynion ynysu llymach ar bobl sydd wedi bod mewn un o 11 gwlad restredig yn Affrica o fewn y cyfnod o 10 niwrnod cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021 ac ar unrhyw un ar yr un aelwyd â phobl o’r fath. Mae’r rhain yn wledydd lle y ceir tystiolaeth o ledaeniad cymunedol amrywiolyn newydd o’r coronafeirws;
(b)gwneud mân ddiwygiad i ganiatáu i gartrefi arddangos aros ar agor mewn ardaloedd Lefel Rhybudd 4, er na chaniateir gweld eiddo mewn cysylltiad â gwerthiant neu osod mewn ardaloedd Lefel Rhybudd 4 ond os yw’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(c)dirymu’r darpariaethau sy’n ymwneud â dydd Nadolig sydd wedi eu disbyddu bellach a gwneud mân ddiwygiadau eraill i reoliadau 38 a 57.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad technegol i destun Cymraeg rheoliad 14(1)(c) yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.