RHAN 5Diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau
Diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau8
1
Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Hepgorer rheoliad 4(7).
3
Yn rheoliad 11A—
a
yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;
b
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (a), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;
iii
yn is-baragraff (c), yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwlad restredig”;
c
ym mharagraff (2), yn lle “y gadawodd P De Affrica” rhodder “yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf”;
d
ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
4
At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig —
a
Teyrnas Eswatini;
b
Teyrnas Lesotho;
c
Gweriniaeth Angola;
d
Gweriniaeth Botswana;
e
Gweriniaeth Malaŵi;
f
Gweriniaeth Mauritius;
g
Gweriniaeth Mozambique;
h
Gweriniaeth Namibia;
i
Gweriniaeth Seychelles;
j
Gweriniaeth Zambia;
k
Gweriniaeth Zimbabwe.
4
Yn rheoliad 11B—
a
yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;
b
yn is-baragraff (2)(c), yn lle “neu risg arall o niwed difrifol” rhodder “, risg arall o niwed difrifol neu i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol”.
5
Yn rheoliad 38(c), yn y testun Saesneg, ar ôl “(2)” mewnosoder “of”.
6
Yn rheoliad 57(1)(t)(i), yn lle “, o fewn unrhyw ardal Haen 4 neu o fewn unrhyw ardal lle y gosodir cyfyngiadau llymach na’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal Haen 3” rhodder “neu o fewn yr ardal Haen 4”.
7
Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn lle “, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos” rhodder “a chartrefi arddangos”.
8
Hepgorer Atodlen 6.