Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliadau 11A, 11AA ac 11B.

(3Yn rheoliad 12, yn lle “, 9(2), 11A(2) neu 11AA(2)” rhodder “neu 9(2)”.

(4Yn rheoliad 14(2), hepgorer is-baragraff (aa).

(5Yn rheoliad 22(4)(a), yn lle “, 9(2), 11A(2) neu 11AA(2)” rhodder “neu 9(2)”.

(6Yn rheoliad 30, yn lle “, 9(2), 11A(2) neu 11AA(2)” rhodder “neu 9(2)”.

(7Yn rheoliad 40—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “, 11A(2), 11AA(2)”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “, 9(3), 11A(3) neu 11AA(3)” rhodder “neu 9(3)”;

(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “, 9(3), 11A(3) neu 11AA(3)” rhodder “neu 9(3)”.

(8Yn rheoliad 57(5)(a), yn lle “reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007” rhodder “reoliad 3 o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020(2)”.

(9Ym mharagraff 3 o Atodlen 4—

(a)yn is-baragraffau (1) a (4), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “un oedolyn” rhodder “anghenion llesiant”;

(b)ar ôl is-baragraff (7) mewnosoder—

(8) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

(a)aelwyd un oedolyn;

(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

(10Yn lle’r pennawd i Atodlen 5 rhodder “Ardaloedd ac addasiadau dros dro”.

(11Ym mharagraff 2 o Atodlen 5—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)mae paragraff 3(8) o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (b)—

(c)aelwyd ag—

(i)2 neu ragor o oedolion,

(ii)1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a

(iii)unrhyw nifer o blant eraill.;

(b)ar ôl paragraff (c) (fel y’i mewnosodir uchod) mewnosoder—

(d)mae paragraff 11 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—

(1A) A chaiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni priodas arall yn y fangre.

(ii)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (4)—

(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005(3)

(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949(4), neu

(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(5).