Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
26 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
2 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 160(1), 168 a 210(1) a (7) o Ddeddf Addysg 2002(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003(2)wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3. Yn rheoliad 2, yn y lle priodol, mewnosoder—
“mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;”,
“mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 2 o Ddeddf 2018;”,
“mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10 o Ddeddf 2018;”,
“mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational provision” gan adran 312 o Ddeddf 1996;”,
“mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 3 o Ddeddf 2018;”,
“ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”.
4. Yn yr Atodlen—
(a)hepgorer paragraff 3(5).
(b)yn lle paragraff 3(6) rhodder—
“(6) Y math neu’r mathau o—
(a)darpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (os oes un), a
(b)darpariaeth addysgol arbennig a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (os oes un).”
(c)yn lle paragraff 5(1) rhodder—
“(1) Nifer y disgyblion yn yr ysgol—
(a)y mae’r ysgol neu awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol mewn perthynas â hwy, a
(b)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â hwy o dan adran 324 o Ddeddf 1996.”
(d)yn lle paragraff 5(2) rhodder—
“(2) Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (1), ond y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Mae’r diwygiadau hyn yn ofynnol o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).
Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniadau perthnasol yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2003. Yn benodol, mae Deddf 2018 wedi ei diffinio, yn ogystal â’r termau “anghenion dysgu ychwanegol” a “darpariaeth ddysgu ychwanegol”. Cyflwynwyd y ddau derm hyn yn Neddf 2018 ac mae’r diwygiadau i Reoliadau 2003 yn diweddaru’r derminoleg. Mae rheoliad 3 hefyd yn mewnosod diffiniadau o “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” o dan adran 312 o Ddeddf Addysg 1996, er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hen system a’r system newydd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Atodlen i Reoliadau 2003. Mae paragraff 3 o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i gwmpasu “anghenion addysgol arbennig” yn ogystal ag “anghenion dysgu ychwanegol”. Mae paragraff 3(5) wedi ei hepgor. Mae paragraff 3(6) wedi ei ddisodli i ddiweddaru’r derminoleg ac ychwanegu’r gofyniad am restr o’r math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r ysgol yn ei gwneud. Yn ychwanegol, mae paragraff 5(1)(a) o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i ddiweddaru’r cyfeiriad at ddatganiadau anghenion addysgol arbennig i gynnwys cynlluniau datblygu unigol, ac i ddileu’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a fyddai’n nodi pwy yw disgyblion unigol. Mae paragraff 5(2) wedi ei ddiwygio fel ei fod yn cyfeirio at anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal ag at anghenion addysgol arbennig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yng ngoleuni’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 32. Mae adran 212(1) yn diffinio “regulations” fel rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o ran Cymru). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Mae adran 212(1) hefyd yn diffinio “prescribes”. Diwygiwyd adran 210 o Ddeddf Addysg 2002 gan adran 21 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2).