xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
3 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a)adran 28;
(b)adran 30(3);
(c)adran 35;
(d)adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(e)adran 46(3), (4) ac (8) i (10);
(f)adran 47(8);
(g)adran 59;
(h)adran 161(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—
(a)adran 163;
(b)adran 164.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud
4. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Tachwedd 2021—
(a)adrannau 24 i 27;
(b)adran 29;
(c)Rhan 1 o Atodlen 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud
5. Daw adran 52 o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar y dyddiad gwneud
6. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Mai 2022—
(a)adran 30 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adrannau 31 i 34;
(c)adrannau 36 a 37;
(d)Pennod 2 o Ran 3;
(e)adran 45;
(f)adran 46 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)adran 48;
(h)adran 54;
(i)adran 56;
(j)adran 57;
(k)adran 58;
(l)adran 62;
(m)adran 63;
(n)adrannau 65 a 66;
(o)adran 67;
(p)adran 161 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(q)adran 162;
(r)Rhan 2 o Atodlen 3;
(s)Atodlen 5;
[F1(t)paragraffau 1, 3 i 5 a 6(1) i (4) o Atodlen 6;]
(u)Atodlen 7;
(v)Atodlen 13.
Diwygiadau Testunol
F1Ergl. 6(t) wedi ei amnewid (9.11.2021) gan Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaeth Drosiannol a Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1) 2021 (O.S. 2021/1249), ergl. 3(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar y dyddiad gwneud
7. Er bod erthygl 6 yn dod â Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym, mae adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o Ddeddf 2000, hyd nes y bo—
(a)y peth hwnnw wedi ei gwblhau; neu
(b)y cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn—
(a)adran 28 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: pwerau i wneud darpariaeth atodol);
(b)adran 30(3) (amod cymhwystra mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned a phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â’r amod hwnnw);
(c)adran 35 (pŵer i ddiwygio neu addasu Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf);
(d)adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(e)adran 46(3), (4) ac (8) i (10) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol);
(f)adran 47(8) (pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio adran 47 o’r Ddeddf mewn perthynas â mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol);
(g)adran 59 (cynnwys canllawiau o dan adran 38 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”), a dyletswydd i roi sylw iddynt);
(h)adran 161(1) (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”)).
Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—
(a)adran 163 (y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn penodi ei brif weithredwr);
(b)adran 164 (cyfarwyddydau o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013).
Mae erthygl 4 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar 1 Tachwedd 2021.
Mae erthygl 5 yn dwyn adran 52 (adroddiadau blynyddol gan gynghorau cymuned) o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.
Mae erthygl 6 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Mai 2022—
(a)adrannau 30 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym), 31 i 34, a 36 a 37 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);
(b)Pennod 2 o Ran 3 (cyfranogiad y cyhoedd pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadau);
(c)adran 45 (dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfansoddiad ac arweiniad i’r cyfansoddiad);
(d)adran 46 (darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 48 (cyfranogi yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned);
(f)adran 54 (prif weithredwyr);
(g)adran 56 (diwygiadau i Fesur 2011 yn ymwneud ag ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru);
(h)adran 57 (penodi cynorthwywyr gweithrediaeth);
(i)adran 58 (rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);
(j)adran 62 (dyletswyddau ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad);
(k)adran 63 (dyletswydd ar bwyllgor safonau i wneud adroddiad blynyddol);
(l)adrannau 65 a 66 (pwyllgorau trosolwg a chraffu);
(m)adran 67 (cynlluniau hyfforddi cynghorau cymuned);
(n)adran 161 (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau pellach i Fesur 2011 a diwygiadau i Ddeddf Lleoliaeth 2011) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(o)adran 162 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod cymunedol);
(p)Rhan 2 o Atodlen 3 (diwygiadau mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);
(q)Atodlen 5 (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phrif weithredwyr);
(r)Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol etc. mewn perthynas â chynorthwywyr gweithrediaethau awdurdodau lleol) ac eithrio paragraff 6(5);
(s)Atodlen 7 (rhannu swyddi gan arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);
(t)Atodlen 13 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfodydd cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).
Mae erthygl 7 yn arbed adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o’r Ddeddf honno hyd nes y bo’r peth hwnnw wedi ei gwblhau neu’r cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.