Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”) er mwyn ychwanegu awdurdodau at y rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o dan adran 1(1) o’r Ddeddf honno.
Mae’r rhestr o awdurdodau Cymreig a bennir yn adran 1(3A) o’r Ddeddf yn awdurdodau sy’n bodloni’r prawf yn adran 2(6) o’r Ddeddf, hynny yw, maent yn awdurdodau Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), y mae eu swyddogaethau’n cyfateb i swyddogaethau awdurdod a bennir am y tro yn is-adran (3) o adran 1 neu y cyfeirir ato yn is-adran (4) o’r adran honno, neu y mae eu swyddogaethau’n debyg i swyddogaethau awdurdod o’r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.