Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn lle “31 Mawrth” rhodder “28 Mai”.

(3Yn rheoliad 31(3)(2), hepgorer “, paragraff 5 o Atodlen 3”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “un oedolyn” rhodder “anghenion llesiant”;

(ii)yn is-baragraff (3), yn lle “i’r holl aelodau o’r aelwydydd sy’n oedolion” rhodder “i holl aelodau’r aelwydydd”;

(iii)yn is-baragraff (6), hepgorer “sy’n oedolyn”;

(iv)ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(6A) Mae is-baragraff (6B) yn gymwys—

(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

(6B) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (6) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).;

(v)ar ôl is-baragraff (8) mewnosoder—

(9) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

(a)aelwyd un oedolyn;

(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.;

(b)ym mharagraff 7(2)(c), hepgorer “ar gyfer darllediad o’r fath”.

(5Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “un oedolyn” rhodder “anghenion llesiant”;

(ii)yn is-baragraff (3), yn lle “i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion” rhodder “i holl aelodau’r aelwydydd”;

(iii)yn is-baragraff (7), hepgorer “sy’n oedolyn”;

(iv)ar ôl is-baragraff (7) mewnosoder—

(7A) Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—

(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

(7B) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).;

(v)ar ôl is-baragraff (9) mewnosoder—

(10) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

(a)aelwyd un oedolyn;

(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.;

(b)ym mharagraff 7(2)(c), hepgorer “ar gyfer darllediad o’r fath”.

(6Yn Atodlen 3—

(b)ym mharagraff 4(3)(c), ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—

(v)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.;

(c)hepgorer paragraff 5;

(d)ym mharagraff 7(2)(c), hepgorer “ar gyfer darllediad o’r fath”.

(7Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion” rhodder “i holl aelodau’r aelwydydd”;

(ii)yn is-baragraff (5), hepgorer “sy’n oedolyn”;

(iii)ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(5A) Mae is-baragraff (5B) yn gymwys—

(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

(5B) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).;

(b)hepgorer Rhan 3A.

(8Ym mharagraff 2 o Atodlen 5—

(a)yn lle “o ddechrau’r diwrnod ar 20 Chwefror 2021 tan ddiwedd y diwrnod ar 12 Mawrth 2021” rhodder “sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 26 Mawrth 2021”;

(b)o flaen paragraff (a) mewnosoder—

(za)mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)“2A(1)” wedi ei roi yn lle “2(1)” ym mharagraff (3)(d)”;

(ii)“ardal sy’n lleol i’r” wedi ei fewnosod ar ôl “i ffwrdd o’r” ym mharagraff (5);

(iii)“ardal sy’n lleol i’r” wedi ei fewnosod ar ôl “ddychwelyd i’r” ym mharagraff (5)(a);

(iv)“ardal honno” wedi ei roi yn lle “man hwnnw” ym mharagraff (5)(b);

(zb)mae rheoliad 31(3) i’w ddarllen fel pe bai “neu baragraff 5 o Atodlen 2” wedi ei roi yn lle “, paragraff 5 o Atodlen 2 neu baragraff 5 o Atodlen 4”;

(zc)mae rheoliad 37(1)(d) i’w ddarllen fel pe bai “, 2(1) neu 2A(1)” wedi ei roi yn lle “neu 2(1)”;;

(c)hepgorer paragraffau (a) a (b);

(d)o flaen paragraff (c) mewnosoder—

(ba)mae paragraff 1 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)“Gofyniad i aros yn lleol” wedi ei roi yn lle’r pennawd;

(ii)“ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r ardal honno” wedi ei roi yn lle “man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw” yn is-baragraff (1);

(ii)“ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu’n aros i ffwrdd o’r ardal honno” wedi ei roi yn lle “man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw,” yn is-baragraff (2)(a);

(iii)yn is-baragraff (3)—

(aa)“ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r ardal honno” wedi ei roi yn lle “man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw” yn y geiriau o flaen paragraff (a);

(bb)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—

(m)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.;

(iv)is-baragraff (4)(b) wedi ei hepgor;

(v)wedi ei roi yn lle is-baragraff (4)(f)—

(f)gwneud ymarfer corff, pan fo’r ymarfer corff yn dechrau ac yn gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw neu lle y mae aelod o aelwyd estynedig y person yn byw;;

(vi)is-baragraff (5) wedi ei hepgor;

(vii)wedi ei fewnosod ar y diwedd—

(6) Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 2A—

(a)ystyr “cartref gofal” yw mangre lle y darperir “gwasanaeth cartref gofal” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3);

(b)mae i “darparwr gwasanaeth” yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.;

(bb)mae paragraff 2 o Atodlen 4 i’w drin fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat

2.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 4 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.

(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(4), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

(i)yn byw yn yr un fangre, a

(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

(7) Er gwaethaf is-baragraffau (2) a (5)(b), ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad.

(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus

2A.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd yn unman ac eithrio mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored—

(a)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig, neu

(b)os nad oes mwy na 4 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.

(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

(j)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(e)mynd i addoldy;

(f)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

(g)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît.

(7) Er gwaethaf is-baragraffau (2)(b) a (5)(b), ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad oni bai bod y person yn cymryd rhan mewn darllediad heb gynulleidfa (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu).

(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.;

(e)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)mae paragraff 4 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (3)(c)(ii)—

(iii)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.;

(cb)mae paragraff 5 o Atodlen 4 i’w drin fel pe bai wedi ei hepgor;

(cc)mae paragraff 10 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “ar gyfer darllediad o’r fath” wedi eu hepgor yn is-baragraff (2)(c);;

(f)yn lle paragraff (cc) (fel y’i mewnosodir uchod) rhodder—

(cc)mae paragraff 10 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)y geiriau “ar gyfer darllediad o’r fath” wedi eu hepgor yn is-baragraff (2)(c);

(ii)wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (2)—

(2A) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraff 22 (salonau gwallt a barbwyr) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion torri, steilio neu liwio gwallt, drwy apwyntiad.;

(g)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)mae paragraff 39 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai “amgaeedig neu” wedi ei hepgor;

(f)mae paragraff 43 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai “o dan do” wedi ei fewnosod ar ôl “corff”;

(g)mae paragraff 45 o Atodlen 4 i’w drin fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—

45.  Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.;

(h)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(h)mae paragraff 56 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai “, gorsafoedd petrol, canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion” wedi ei roi yn lle “a gorsafoedd petrol”;

(i)mewn perthynas ag archfarchnad neu siop arall sy’n gwerthu sawl math o nwyddau—

(i)a oedd ar agor i’r cyhoedd ar 11 Mawrth 2021, a

(ii)sy’n defnyddio ei mangre, yng nghwrs arferol ei busnes, yn bennaf i werthu—

(aa)y nwyddau a restrir ym mharagraff 55 o Atodlen 4, neu

(bb)nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir ym mharagraff 56 o Atodlen 4;

mae paragraff 57 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “ond dim ond at ddibenion” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.

(2)

Fel y’i diwygiwyd gan reoliad 2(3) o’r Rheoliadau hyn.

(3)

2016 dccc 2, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/1326 (Cy. 299) ac O.S. 2018/195 (Cy. 44).

(4)

2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: