2021 Rhif 327 (Cy. 85)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 83(2), 84 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau yma gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(k) ac (l) o’r Ddeddf ac fe’u cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rymI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod” (“member”) yw person a benodwyd i gyd-bwyllgor corfforedig o dan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

  • ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

  • ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” (“co-opted participant”) yw person sydd wedi ei gyfethol gan aelodau’r cyngor i gymryd rhan yng ngweithgarwch cyd-bwyllgor corfforedig;

  • ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;

  • ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 (dsc 1);

  • mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021;

  • mae i “prif ardal” (“principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 68 o Ddeddf 2021;

  • mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021.

2

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ardal cyd-bwyllgor corfforedig yn gyfeiriadau at yr ardal sy’n ffurfio—

a

prif ardaloedd y prif gynghorau a oedd wedi gwneud cais cyd-bwyllgor o dan adran 72(1) o Ddeddf 2021, neu

b

y prif ardaloedd a bennwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 74(1) o’r Ddeddf honno.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 1Safonau ymddygiad

Ymddygiad aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgor corfforedigI33

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys mewn perthynas ag aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Cyllid a chyfrifon

Cyllid a chyfrifonI44

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyllid a chyfrifon cyd-bwyllgorau corfforedig.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Diwygiadau cyffredinol

Diwygiadau cyffredinol sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedigI55

Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedig fel corff cyhoeddus.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Safonau ymddygiad

Rheoliad 3

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod perthnasol i aelodau a chyfranogwyr cyfetholedigI61

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys i berson—

a

sydd—

i

yn aelod, neu

ii

yn gyfranogwyr cyfetholedig,

o gyd-bwyllgor corfforedig, a

b

sydd—

i

yn aelod, neu

ii

yn aelod cyfetholedig,

o awdurdod perthnasol.

2

At ddibenion cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, mae person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei benodi gan yr awdurdod perthnasol i wasanaethu ar y cyd-bwyllgor corfforedig.

3

Pan fo’n ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (2), i berson y mae’r is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo, i’r graddau y mae’n gweithredu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig, i gydymffurfio â’r cod ymddygiad enghreifftiol (“y cod”), mae is-baragraffau (4) a (5) yn gymwys.

4

Mae cyfeiriadau at “awdurdod” person yn Rhan 3 o’r cod i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r person yn gweithredu ar ei ran.

5

Rhaid i berson gofrestru unrhyw fuddiant personol sydd ganddo ym musnes y cyd-bwyllgor corfforedig yng nghofrestr buddiannau aelodau ei awdurdod perthnasol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog monitro’r awdurdod.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod i gyflogeionI72

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys oni bai—

a

bod darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

b

bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

2

Mae Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 20012 (“Gorchymyn 2001”) yn gymwys i gyflogai cyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogai awdurdod perthnasol.

3

Yng Ngorchymyn 2001, fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2), mae cyfeiriad at awdurdod cyflogai i’w ddarllen fel cyfeiriad at gyd-bwyllgor corfforedig cyflogai.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Atodlen 1I83

Yn yr Atodlen hon—

a

mae cyfeiriadau at “Deddf 2000” yn gyfeiriadau at Ddeddf Llywodraeth Leol 20003;

b

mae cyfeiriadau at y “cod ymddygiad enghreifftiol” yn gyfeiriadau at y cod ymddygiad enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 20084;

c

ystyr “cod ymddygiad” yw’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan awdurdod perthnasol o dan adran 51 o Ddeddf 2000;

d

mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a roddir i “co-opted member” gan adran 49 o Ddeddf 2000;

e

mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 49 o Ddeddf 2000.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 2Cyllid a chyfrifon

Rheoliad 4

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003I91

Yn adran 23 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20035 (ystyr “local authority” (“awdurdod lleol”)), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

11

This Part applies in relation to a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 as it applies in relation to a local authority.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003I102

Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 20036 (dehongli), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “Regulations” mewnosoder “and includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 in so far as Part 1 of the Local Government Act 2003 applies to corporate joint committees by virtue of section 23(11) of the 2003 Act”.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

ATODLEN 3Diwygiadau cyffredinol

Rheoliad 5

Diwygio Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970I111

Yn adran 1(4) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 19707 (cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “any joint authority established by Part VI of the Local Government Act 1985,” mewnosoder “any corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010I122

Yn adran 59(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 20108, ar ôl paragraff (j) mewnosoder—

ja

a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017I133

Ym mharagraff 1(4) o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20179, ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

da

cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys i aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad y mae rhaid i awdurdodau perthnasol ei fabwysiadu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22). Mae’n darparu, pan fo aelod neu gyfranogwr cyfetholedig cyd-bwyllgor corfforedig yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, fod cod ymddygiad ei awdurdod yn gymwys iddo fel pe bai wedi ei benodi i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan ei awdurdod.

Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad ar gyfer cyflogeion awdurdodau perthnasol sydd hefyd wedi ei wneud o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae’n darparu bod y cod hwn yn gymwys i gyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogeion awdurdodau perthnasol o fewn yr ystyr a roddir gan y Ddeddf honno.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifon a chyllid cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae paragraff 1 o Atodlen 2 yn darparu bod Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i awdurdodau lleol.

Mae Rhan 1 o Ddeddf 2003 yn gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau rheoli ariannol awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus cysylltiedig, gan gynnwys yn benodol ddarpariaeth ynghylch cyllid cyfalaf ac arferion cyfrifyddu.

Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y maent yn gymwys i awdurdodau lleol. Mae Rheoliadau 2003 yn gwneud darpariaeth bellach, fanylach, ynghylch y materion sydd wedi eu cynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Mae Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau cyffredinol i ddeddfiadau eraill.

Mae paragraff 1 o Atodlen 3 yn diwygio adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (p. 39) gyda’r effaith y caiff cyd-bwyllgorau corfforedig ymrwymo i gytundebau penodol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau gydag awdurdod arall y mae’r adran honno yn gymwys iddo mewn perthynas â gweithrediadau masnachu.

Mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn diwygio adran 59 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) gyda’r effaith bod y mesurau diogelu rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth a nodir yn adran 58 o’r Ddeddf honno yn gymwys i aelod o gyd-bwyllgor corfforedig sy’n cyflawni busnes swyddogol fel aelod o’r fath.

Mae paragraff 3 o Atodlen 3 yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae’r paragraff hwnnw yn darparu nad oes unrhyw dreth trafodiadau tir i’w chodi ar drafodiad tir rhwng cyrff cyhoeddus sy’n deillio o ganlyniad i ad-drefnu y darperir ar ei gyfer mewn deddfwriaeth. Mae’r diwygiad yn sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu trin fel cyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad hwnnw rhag treth.

Mae’r Rheoliadau yma yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.