Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

F1...

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

F1...

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 (dsc 1);

mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021;

mae i “prif ardal” (“principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 68 o Ddeddf 2021;

mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021.

(2Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ardal cyd-bwyllgor corfforedig yn gyfeiriadau at yr ardal sy’n ffurfio—

(a)prif ardaloedd y prif gynghorau a oedd wedi gwneud cais cyd-bwyllgor o dan adran 72(1) o Ddeddf 2021, neu

(b)y prif ardaloedd a bennwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 74(1) o’r Ddeddf honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 1LL+CSafonau ymddygiad

Ymddygiad aelodau, [F2aelodau o is-bwyllgor] a chyflogeion cyd-bwyllgor corfforedigLL+C

3.  Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys mewn perthynas ag aelodau, [F2aelodau o is-bwyllgor] a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CCyllid a chyfrifon

Cyllid a chyfrifonLL+C

4.  Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyllid a chyfrifon cyd-bwyllgorau corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygiadau cyffredinol

Diwygiadau cyffredinol sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedigLL+C

5.  Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedig fel corff cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021