ATODLEN 1Safonau ymddygiad
Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod perthnasol i aelodau a chyfranogwyr cyfetholedig1
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys i berson—
a
sydd—
i
yn aelod, neu
ii
yn gyfranogwyr cyfetholedig,
o gyd-bwyllgor corfforedig, a
b
sydd—
i
yn aelod, neu
ii
yn aelod cyfetholedig,
o awdurdod perthnasol.
2
At ddibenion cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, mae person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei benodi gan yr awdurdod perthnasol i wasanaethu ar y cyd-bwyllgor corfforedig.
3
Pan fo’n ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (2), i berson y mae’r is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo, i’r graddau y mae’n gweithredu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig, i gydymffurfio â’r cod ymddygiad enghreifftiol (“y cod”), mae is-baragraffau (4) a (5) yn gymwys.
4
Mae cyfeiriadau at “awdurdod” person yn Rhan 3 o’r cod i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r person yn gweithredu ar ei ran.
5
Rhaid i berson gofrestru unrhyw fuddiant personol sydd ganddo ym musnes y cyd-bwyllgor corfforedig yng nghofrestr buddiannau aelodau ei awdurdod perthnasol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog monitro’r awdurdod.
Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod i gyflogeion2
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys oni bai—
a
bod darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
b
bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.
2
Mae Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 20012 (“Gorchymyn 2001”) yn gymwys i gyflogai cyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogai awdurdod perthnasol.
3
Yng Ngorchymyn 2001, fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2), mae cyfeiriad at awdurdod cyflogai i’w ddarllen fel cyfeiriad at gyd-bwyllgor corfforedig cyflogai.
Dehongli Atodlen 13
Yn yr Atodlen hon—
a
mae cyfeiriadau at “Deddf 2000” yn gyfeiriadau at Ddeddf Llywodraeth Leol 20003;
b
mae cyfeiriadau at y “cod ymddygiad enghreifftiol” yn gyfeiriadau at y cod ymddygiad enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 20084;
c
ystyr “cod ymddygiad” yw’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan awdurdod perthnasol o dan adran 51 o Ddeddf 2000;
d
mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a roddir i “co-opted member” gan adran 49 o Ddeddf 2000;
e
mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 49 o Ddeddf 2000.
ATODLEN 2Cyllid a chyfrifon
Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 20031
Yn adran 23 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20035 (ystyr “local authority” (“awdurdod lleol”)), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—
11
This Part applies in relation to a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 as it applies in relation to a local authority.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 20032
Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 20036 (dehongli), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “Regulations” mewnosoder “and includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 in so far as Part 1 of the Local Government Act 2003 applies to corporate joint committees by virtue of section 23(11) of the 2003 Act”.
ATODLEN 3Diwygiadau cyffredinol
Diwygio Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 19701
Yn adran 1(4) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 19707 (cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “any joint authority established by Part VI of the Local Government Act 1985,” mewnosoder “any corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.
Diwygio Deddf Cydraddoldeb 20102
Yn adran 59(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 20108, ar ôl paragraff (j) mewnosoder—
ja
a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;
Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20173
Ym mharagraff 1(4) o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20179, ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
da
cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;