Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 327 (Cy. 85)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021
Gwnaed
17 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 83(2), 84 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau yma gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(k) ac (l) o’r Ddeddf ac fe’u cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rymLL+C
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
DehongliLL+C
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
F1...
ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;
F1...
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 (dsc 1);
mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021;
mae i “prif ardal” (“principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 68 o Ddeddf 2021;
mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ardal cyd-bwyllgor corfforedig yn gyfeiriadau at yr ardal sy’n ffurfio—
(a)prif ardaloedd y prif gynghorau a oedd wedi gwneud cais cyd-bwyllgor o dan adran 72(1) o Ddeddf 2021, neu
(b)y prif ardaloedd a bennwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 74(1) o’r Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 43(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
RHAN 1LL+CSafonau ymddygiad
Ymddygiad aelodau, [F2aelodau o is-bwyllgor] a chyflogeion cyd-bwyllgor corfforedigLL+C
3. Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys mewn perthynas ag aelodau, [F2aelodau o is-bwyllgor] a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 3 a'r pennawd wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 43(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
RHAN 2LL+CCyllid a chyfrifon
Cyllid a chyfrifonLL+C
4. Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyllid a chyfrifon cyd-bwyllgorau corfforedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
RHAN 3LL+CDiwygiadau cyffredinol
Diwygiadau cyffredinol sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedigLL+C
5. Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedig fel corff cyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
Rheoliad 3
ATODLEN 1LL+CSafonau ymddygiad
Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod perthnasol i aelodau [F3ac aelodau o is-bwyllgor] LL+C
1.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys i berson—
(a)sydd—
(i)yn aelod, neu
(ii)yn [F4aelod o is-bwyllgor],
o gyd-bwyllgor corfforedig, a
(b)sydd—
(i)yn aelod, neu
(ii)yn aelod cyfetholedig,
o awdurdod perthnasol.
(2) At ddibenion cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, mae person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei benodi gan yr awdurdod perthnasol i wasanaethu ar y cyd-bwyllgor corfforedig.
(3) Pan fo’n ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (2), i berson y mae’r is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo, i’r graddau y mae’n gweithredu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig, i gydymffurfio â’r cod ymddygiad enghreifftiol (“y cod”), mae is-baragraffau (4) a (5) yn gymwys.
(4) Mae cyfeiriadau at “awdurdod” person yn Rhan 3 o’r cod i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r person yn gweithredu ar ei ran.
(5) Rhaid i berson gofrestru unrhyw fuddiant personol sydd ganddo ym musnes y cyd-bwyllgor corfforedig yng nghofrestr buddiannau aelodau ei awdurdod perthnasol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog monitro’r awdurdod.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn mhennawd Atod. 1 para. 1 wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 43(4)(a)
F4Geiriau yn Atod. 1 para. 1(1)(a)(ii) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 43(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod i gyflogeionLL+C
2.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys oni bai—
(a)bod darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.
(2) Mae Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001(2) (“Gorchymyn 2001”) yn gymwys i gyflogai cyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogai awdurdod perthnasol.
(3) Yng Ngorchymyn 2001, fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2), mae cyfeiriad at awdurdod cyflogai i’w ddarllen fel cyfeiriad at gyd-bwyllgor corfforedig cyflogai.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Dehongli Atodlen 1LL+C
3. Yn yr Atodlen hon—
(a)mae cyfeiriadau at “Deddf 2000” yn gyfeiriadau at Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3);
(b)mae cyfeiriadau at y “cod ymddygiad enghreifftiol” yn gyfeiriadau at y cod ymddygiad enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(4);
(c)ystyr “cod ymddygiad” yw’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan awdurdod perthnasol o dan adran 51 o Ddeddf 2000;
(d)mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a roddir i “co-opted member” gan adran 49 o Ddeddf 2000;
(e)mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 49 o Ddeddf 2000.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 4
ATODLEN 2LL+CCyllid a chyfrifon
Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003LL+C
1. Yn adran 23 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(5) (ystyr “local authority” (“awdurdod lleol”)), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—
“(11) This Part applies in relation to a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 as it applies in relation to a local authority.”
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003LL+C
2. Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003(6) (dehongli), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “Regulations” mewnosoder “and includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 in so far as Part 1 of the Local Government Act 2003 applies to corporate joint committees by virtue of section 23(11) of the 2003 Act”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 5
ATODLEN 3LL+CDiwygiadau cyffredinol
Diwygio Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970LL+C
1. Yn adran 1(4) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(7) (cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “any joint authority established by Part VI of the Local Government Act 1985,” mewnosoder “any corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010LL+C
2. Yn adran 59(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(8), ar ôl paragraff (j) mewnosoder—
“(ja)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017LL+C
3. Ym mharagraff 1(4) o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(9), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys i aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad y mae rhaid i awdurdodau perthnasol ei fabwysiadu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22). Mae’n darparu, pan fo aelod neu gyfranogwr cyfetholedig cyd-bwyllgor corfforedig yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, fod cod ymddygiad ei awdurdod yn gymwys iddo fel pe bai wedi ei benodi i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan ei awdurdod.
Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad ar gyfer cyflogeion awdurdodau perthnasol sydd hefyd wedi ei wneud o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae’n darparu bod y cod hwn yn gymwys i gyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogeion awdurdodau perthnasol o fewn yr ystyr a roddir gan y Ddeddf honno.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifon a chyllid cyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae paragraff 1 o Atodlen 2 yn darparu bod Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i awdurdodau lleol.
Mae Rhan 1 o Ddeddf 2003 yn gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau rheoli ariannol awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus cysylltiedig, gan gynnwys yn benodol ddarpariaeth ynghylch cyllid cyfalaf ac arferion cyfrifyddu.
Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y maent yn gymwys i awdurdodau lleol. Mae Rheoliadau 2003 yn gwneud darpariaeth bellach, fanylach, ynghylch y materion sydd wedi eu cynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Mae Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau cyffredinol i ddeddfiadau eraill.
Mae paragraff 1 o Atodlen 3 yn diwygio adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (p. 39) gyda’r effaith y caiff cyd-bwyllgorau corfforedig ymrwymo i gytundebau penodol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau gydag awdurdod arall y mae’r adran honno yn gymwys iddo mewn perthynas â gweithrediadau masnachu.
Mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn diwygio adran 59 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) gyda’r effaith bod y mesurau diogelu rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth a nodir yn adran 58 o’r Ddeddf honno yn gymwys i aelod o gyd-bwyllgor corfforedig sy’n cyflawni busnes swyddogol fel aelod o’r fath.
Mae paragraff 3 o Atodlen 3 yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae’r paragraff hwnnw yn darparu nad oes unrhyw dreth trafodiadau tir i’w chodi ar drafodiad tir rhwng cyrff cyhoeddus sy’n deillio o ganlyniad i ad-drefnu y darperir ar ei gyfer mewn deddfwriaeth. Mae’r diwygiad yn sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu trin fel cyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad hwnnw rhag treth.
Mae’r Rheoliadau yma yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2003 p. 26. 2003 p. 26. Diwygiwyd adran 23 gan baragraff 100 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21); paragraff 10(3)(e) o Atodlen 2 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36); paragraff 117(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20); paragraff 317 o Atodlen 16 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13); paragraff 6(32)(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20); adrannau 9(4) a 25(2) o Ddeddf Datganoli Dinasoedd a Llywodraeth Leol 2016 (p. 1); paragraff 83(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3); a chan O.S. 2005/886.
O.S. 2003/3239 (Cy. 319). Diwygiwyd rheoliad 1 gan O.S. 2004/1010 (Cy. 107), O.S. 2006/944 (Cy. 93), O.S. 2018/325 (Cy. 61) ac O.S. 2019/736 (Cy. 139).