2021 Rhif 332 (Cy. 87)
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161 (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—
wedi eu bodloni bod pob cyllideb garbon yn cael ei gosod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050 a’r targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl, yn unol ag adran 32(1)(b) o’r Ddeddf,
wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, ac
wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd3, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021-2025, a gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 31(1) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mawrth 2021.
Diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021 i 20252
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 20184, yn lle “33%” rhodder “37%”.
Y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026 i 20303
Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 58% yn is na’r waelodlin.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)