- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 4.13 p.m. ar 17 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 5.55 p.m. ar 17 Mawrth 2021
Yn dod i rym
18 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1) a (2) a 157(2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1) fel y’i hestynnir gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2).
Yn unol ag adran 12(3) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021(3), gosodwyd yr offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad o fewn 28 o ddiwrnodau iddo gael ei wneud.
Yn unol ag adran 7(1) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(4), mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol cyn iddo gael ei wneud.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir..
(3) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd sy’n digwydd yn 2021.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “etholiad 2021” (“the 2021 election”) yw etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021;
ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(5).
2. Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol â Rhannau 2 a 3.
3. Yn rheol 1(1) (amserlen ar gyfer cynnal trafodion mewn etholiad i’r Senedd) o Atodlen 5, yng ngholofn y tabl â’r pennawd “Time”, yn y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod “Delivery of nomination papers.”, ym mrawddeg gyntaf y golofn honno, ar ôl “notice of election but not later than” mewnosoder “4 in the afternoon on”.
4. Yn erthygl 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—
““UK Parliamentary constituency” means a constituency specified in an Order in Council made under section 4 of the Parliamentary Constituencies Act 1986(6).”
5.—(1) Mae Atodlen 5 (Rheolau Etholiadau’r Senedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol 4(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
(3) Yn rheol 6(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
(4) Yn rheol 7(6B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
6. Yn Atodlen 10 (Atodiad ffurflenni), yn Rhan 2 o ffurflen CZ, ar ôl “etholaeth Senedd Cymru” mewnosoder “neu, os yw’r ymgeisydd yn preswylio y tu allan i Gymru, etholaeth Senedd y DU”.
Mark Drakeford
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
Am 4.13 p.m. ar 17 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”).
Gwnaed Gorchymyn 2007 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond trosglwyddwyd y pwerau galluogi i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cymru 2017. Gwnaeth Gweinidogion Cymru eu Gorchymyn cyntaf mewn perthynas â chynnal etholiadau Senedd Cymru yn 2020, sef Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 (“Gorchymyn 2020”).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 i newid yr amser ar gyfer danfon papurau enwebu i 4 p.m. ar y 19eg diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.
Mae erthyglau 4, 5 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraffau 4, 6 a 7 o Atodlen 5 i Orchymyn 2007 a Rhan 2 o ffurflen CZ (Ffurflen cyfeiriad cartref) yn Atodlen 10 iddo. Mae’r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd, nad yw am i’w gyfeiriad cartref gael ei wneud yn gyhoeddus, ddarparu naill ai ei etholaeth Senedd Cymru, neu os yw’n preswylio y tu allan i Gymru, ei etholaeth Senedd y DU lle y mae ei gartref. Mae Ffurflen CZ wedi ei diwygio i adlewyrchu’r newid hwn hefyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
2006 p. 32. Amnewidiwyd adran 13 gan adran 5(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1).
2000 p. 41; amnewidiwyd is-adran (2)(f) gan O.S. 2007/1388.
O.S. 2007/236. Diwygiwyd y Gorchymyn hwn gan O.S. 2009/1182; O.S. 2010/1142 (Cy. 101); O.S. 2010/2931; O.S. 2011/1441; O.S. 2011/2085; O.S. 2012/1479; O.S. 2013/388; O.S. 2013/591; O.S. 2015/664; O.S. 2016/272; O.S. 2016/292; O.S. 2020/1558 (Cy. 329); adran 3 o Ddeddf Cymru 2014 (p. 29), adran 27 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac adran 12 o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: