Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021
Mae gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (sy’n ymwneud ag ymgynghori) wedi eu bodloni.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(i) a (k) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3)
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—
(a)
rheoliad 11;
(b)
rheoliad 12;
(c)
rheoliad 13;
(d)
rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad F1... 12 neu 13.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
F2ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);
ystyr “aelod Eryri” (“the Snowdonia member”) yw’r aelod a benodir o dan F3“reoliad 8(1);
F4mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1);
ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);
F5...
F2ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri” (“the Snowdonia National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—
(a)
y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);
(b)
wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—
(a)
cyngor bwrdeistref sirol Conwy;
(b)
cyngor sir Ddinbych;
(c)
cyngor sir y Fflint;
(d)
cyngor Gwynedd;
(e)
cyngor sir Ynys Môn;
(f)
cyngor bwrdeistref sirol Wrecsam;
F4...
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;
ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;
ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—
(a)
(b)
unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.
RHAN 1Sefydlu ac ardal
Sefydlu3.
(1)
Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (“CBC y Gogledd”) wedi ei sefydlu.
(2)
Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaethau—
(a)
a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a
(b)
a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.
(3)
Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.
Ardal4.
Mae ardal CBC y Gogledd wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.
RHAN 2Cyfansoddiad
Cyfansoddiad5.
Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y Gogledd.
RHAN 3Aelodaeth
Aelodaeth6.
(1)
Aelodau CBC y Gogledd yw—
(a)
y 6 aelod cyngor, F6...
(b)
aelod EryriF7 , ac
F8(c)
unrhyw aelod cyfetholedig.
(2)
Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Gogledd F9, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2).
F10(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Gogledd (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Eryri F11ac unrhyw aelod cyfetholedig, oni bai bod—
(a)
darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)
y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Aelodau cyngor7.
(1)
Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)
yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)
y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Gogledd.
F12(2)
Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
(2A)
At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y Gogledd.
(2B)
Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(2C)
Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)
wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
(b)
wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.
(3)
Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Gogledd hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Aelod Eryri8.
(1)
Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).
(2)
Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—
(a)
cadeirydd yr Awdurdod,
(b)
dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)
cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
F13(2A)
Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)
y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;
(b)
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B)
Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—
(a)
os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno F14yn unfrydol, neu
(b)
os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C)
Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.
F15(3)
Pan fo person sy’n aelod Eryri o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Eryri am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
(4)
At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Eryri o CBC y Gogledd.
(5)
Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Eryri fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(6)
Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)
wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
(b)
wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
F16Aelodau cyfetholedig9.
(1)
Caiff CBC y Gogledd gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Gogledd (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2)
Rhaid i’r telerau hynny—
(a)
pennu—
(i)
swyddogaethau CBC y Gogledd y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
(b)
cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill F17sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ac
(c)
cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3)
Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)
y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13, a
(b)
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Eryri weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4)
Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)
am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)
hyd nes—
(i)
y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Gogledd, neu
(ii)
y bydd CBC y Gogledd yn terfynu’r cyfetholiad.
(5)
Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)
caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)
rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Gogledd.
F18Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedig9A.
(1)
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Gogledd os yw’r person—
(a)
yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)
CBC y Gogledd;
(ii)
is-bwyllgor i CBC y Gogledd;
(iii)
deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)
wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)
cyngor cyfansoddol;
(ii)
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).
Rhannu swydd10.
Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)
rheoliad 7(1), neu
(b)
rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
RHAN 4Swyddogaethau
Llesiant economaidd11.
Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Gogledd (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth12.
(1)
(2)
Swyddogaethau cynllunio strategol13.
Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Gogledd (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).
Is-bwerau14.
(1)
Caniateir i CBC y Gogledd wneud unrhyw beth—
(a)
i hwyluso, neu
(b)
sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,
arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.
(2)
Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a)
mynd i wariant;
(b)
codi ffioedd;
(c)
caffael neu waredu eiddo neu hawliau.
F19Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill15.
Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)
cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)
y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)
mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)
cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)
cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)
cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)
tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)
mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)
cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)
cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)
cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).
RHAN 5Ariannu
Cyfrifo gofynion cyllideb16.
(1)
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Gogledd gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—
(a)
ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a
(b)
ei swyddogaethau eraill.
(2)
Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—
(a)
y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);
(b)
y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;
(c)
y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;
(d)
unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.
(3)
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Gogledd hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd i’w priodoli i—
(a)
ei swyddogaethau cynllunio strategol, a
(b)
ei swyddogaethau eraill.
(4)
Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(5)
Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(6)
Rhaid i CBC y Gogledd —
(a)
cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a
(b)
cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,
yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.
(7)
Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.
(8)
Caiff CBC y Gogledd ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Gogledd o ganlyniad i hynny.
(9)
Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Gogledd.
Ariannu gofyniad cyllideb17.
(1)
Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.
(2)
Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol F20yr aelodau cyngor ac aelod Eryri.
(3)
Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(4)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.
F21Cronfa Gyffredinol17A.
(1)
Rhaid i CBC y Gogledd sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y Gogledd.
(2)
Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y Gogledd (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.
(3)
Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y Gogledd gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.
(4)
Rhaid i CBC y Gogledd gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.
(5)
Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).
YR ATODLENCyfansoddiad
RHAN 1Gweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio
Cadeirio cyfarfodydd
1.
Rhaid i gyfarfodydd CBC y Gogledd gael eu cadeirio gan—
(a)
y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu
(b)
os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.
Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd
2.
(1)
Yng nghyfarfod cyntaf CBC y Gogledd—
(a)
penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a
(b)
rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor bwrdeistref sirol Conwy gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).
(2)
Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y Gogledd—
(a)
rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu
(b)
rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.
(3)
Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.
(4)
Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—
(a)
yr aelodau cyngor, a
(b)
unrhyw F22aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.
(5)
Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.
(6)
Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y Gogledd a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.
(7)
Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.
(8)
Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor bwrdeistref sirol Conwy.
Cyfarfodydd cyffredinol blynyddol
3.
Rhaid i CBC y Gogledd o gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.
Cyfarfodydd eraill
4.
(1)
Caiff CBC y Gogledd gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.
(2)
Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y Gogledd gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
Cworwm
5.
Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Gogledd onid yw—
(a)
yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
F23(i)
rheoliad 8(2B);
(ia)
rheoliad 17, neu
(ii)
paragraff 7 o’r Atodlen hon,
yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a
(b)
mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.
Y weithdrefn bleidleisio
6.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Gogledd—
F24(a)
ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,
(b)
un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,
(c)
mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a
(d)
os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.
(2)
Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)
rheoliad 17, neu
(b)
paragraff 7 o’r Atodlen hon,
nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.
(3)
Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff (1)(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.
Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol
7.
(1)
Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y Gogledd fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.
(2)
Ond ni chaiff CBC y Gogledd fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)
rheoliad 17, neu
(b)
y paragraff hwn.
(3)
Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—
(a)
rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y Gogledd y mae’n gymwys iddynt;
(b)
ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).
F25(3A)
Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Eryri o CBC y Gogledd bleidleisio drwy ddirprwy.
F26(4)
Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.
(5)
Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.
Rheolau sefydlog
8.
(1)
Rhaid i CBC y Gogledd wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.
(2)
Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.
RHAN 2Staff
Cyffredinol
9.
F27(1)
Caiff CBC y Gogledd wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
(a)
darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a
(b)
F28(2)
Rhaid i CBC y Gogledd sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Gogledd gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.
Caiff CBC y Gogledd wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
Telerau ac amodau
10.
(1)
Pan fo CBC y Gogledd yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y Gogledd.
F29(2)
Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)
mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)
nid yw’n atal CBC y Gogledd rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
Staff o awdurdodau eraill
11.
(1)
(2)
Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y Gogledd yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y Gogledd at ddibenion—
(a)
y Rheoliadau hyn;
(b)
paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;
(c)
unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y Gogledd neu ag arfer ei swyddogaethau.
F30(3)
Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Gogledd yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.
Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraill
12.
(1)
Caiff CBC y Gogledd ymrwymo i gytundeb gydag—
(a)
cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);
(b)
awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),
ar gyfer rhoi staff CBC y Gogledd at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2)
Pan fo aelod o staff CBC y Gogledd yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—
(a)
at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y Gogledd, a
(b)
at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.
Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12
13.
Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.
Trosglwyddo staff
14.
RHAN 3Is-bwyllgorau
Is-bwyllgorau
F3115.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
16.
(1)
Rhaid i CBC y Gogledd sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—
(a)
adolygu materion ariannol CBC y Gogledd a chraffu arnynt;
(b)
llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y Gogledd;
(c)
adolygu ac asesu trefniadau CBC y Gogledd ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol F32, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol;
(d)
llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y Gogledd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;
F33(da)
adolygu ac asesu gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;
(db)
gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;
(e)
goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y Gogledd;
(f)
adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y Gogledd;
(g)
arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y Gogledd.
F34(1A)
Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(2)
Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y Gogledd sicrhau—
(a)
F35nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,
(b)
F36bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac
F39(2A)
Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
F40(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)
Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).
(5)
Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.
Mae adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i sefydlu cyrff corfforedig a elwir yn gyd-bwyllgorau corfforedig. Sefydlir y cyrff hyn er mwyn arfer swyddogaethau penodol a bennir yn y rheoliadau sy’n eu sefydlu, mewn perthynas ag ardal sy’n cynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio aelodaeth y cyd-bwyllgor corfforedig (yn ogystal â hynny, pan roddir swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio strategol i gyd-bwyllgor corfforedig, caiff awdurdod Parc Cenedlaethol fod yn aelod o’r pwyllgor hefyd).
Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu corff corfforedig a elwir yn Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac yn pennu’r swyddogaethau a ganlyn fel rhai sy’n arferadwy gan y corff hwn—
y swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76 o Ddeddf 2021),
datblygu polisïau trafnidiaeth a llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a
llunio cynlluniau datblygu strategol (gweler Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004).
Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 1 yn sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, a’i ardal, ac yn diffinio rhai termau allweddol.
Mae Rhan 2 yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’r Atodlen hon yn cynnwys trefniadau cyfansoddiadol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gan gynnwys trefniadau ynghylch cynnal a chadeirio cyfarfodydd, pleidleisio ar benderfyniadau, sefydlu is-bwyllgorau a staffio.
Mae Rhan 3 yn nodi aelodaeth Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Yn unol â’r Rhan hon, bydd y corff wedi ei ffurfio o 6 aelod cyngor, un ar gyfer pob awdurdod lleol yn y gogledd, ac aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, nad oes ganddo ond hawl i bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol. Caiff y Pwyllgor gyfethol personau eraill (a elwir yn “cyfranogwyr cyfetholedig”) i gyfranogi ym musnes y Pwyllgor a chaiff roi hawliau pleidleisio i gyfranogwyr cyfetholedig.
Mae Rhan 4 yn pennu y caniateir arfer y 3 swyddogaeth a grybwyllir uchod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac y caiff y Pwyllgor wneud pethau eraill i hwyluso arfer y swyddogaethau hynny neu bethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.
Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd i gyfrifo ei gyllideb a sut y mae i’w ariannu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.