Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

3

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

a

rheoliad 11;

b

rheoliad 12;

c

rheoliad 13;

d

rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad 11, 12 neu 13.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod Eryri” (“the Snowdonia member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8;

  • ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

  • ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod yng Nghymru a sefydlir o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 19952;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

    1. a

      y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

    2. b

      wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

  • ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

    1. a

      cyngor bwrdeistref sirol Conwy;

    2. b

      cyngor sir Ddinbych;

    3. c

      cyngor sir y Fflint;

    4. d

      cyngor Gwynedd;

    5. e

      cyngor sir Ynys Môn;

    6. f

      cyngor bwrdeistref sirol Wrecsam;

  • mae i “cyfranogwr cyfetholedig” (“co-opted participant”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(3);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

  • ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

  • ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

    1. a

      swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20043 (gweler rheoliad 13), a

    2. b

      unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

RHAN 1Sefydlu ac ardal

Sefydlu3

1

Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (“CBC y Gogledd”) wedi ei sefydlu.

2

Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaethau—

a

a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

b

a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

3

Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Ardal4

Mae ardal CBC y Gogledd wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

RHAN 2Cyfansoddiad

Cyfansoddiad5

Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y Gogledd.

RHAN 3Aelodaeth

Aelodaeth6

1

Aelodau CBC y Gogledd yw—

a

y 6 aelod cyngor, a

b

aelod Eryri.

2

Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Gogledd.

3

Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Eryri i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.

4

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Gogledd (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Eryri i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—

a

darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

b

y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngor7

1

Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

a

yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

b

y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y Gogledd.

2

Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.

3

Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Gogledd hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Eryri8

1

Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).

2

Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—

a

cadeirydd yr Awdurdod,

b

dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

c

cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

3

Pan fo aelod Eryri yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran aelod Eryri am y cyfnod hwnnw.

Cyfranogwyr cyfetholedig9

1

Caiff yr aelodau o CBC y Gogledd gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—

a

yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y Gogledd;

b

i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y Gogledd.

2

Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.

3

Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.

4

Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).

5

Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—

a

am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),

b

hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu

c

hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y Gogledd.

6

Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.

7

Caiff yr aelodau o CBC y Gogledd ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.

8

Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—

a

unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);

b

unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).

Rhannu swydd10

Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

a

rheoliad 7(1), neu

b

rheoliad 8(2),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaidd11

Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Gogledd (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth12

1

Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 20004, mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Gogledd, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

2

Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Gogledd a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 20215.

Swyddogaethau cynllunio strategol13

Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Gogledd (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Is-bwerau14

1

Caniateir i CBC y Gogledd wneud unrhyw beth—

a

i hwyluso, neu

b

sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

2

Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

a

mynd i wariant;

b

codi ffioedd;

c

caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Dirprwyo swyddogaethau15

1

Caiff CBC y Gogledd ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—

a

paragraff (2);

b

unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.

2

Ni chaiff CBC y Gogledd ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—

a

rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);

b

rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);

c

rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);

d

rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);

e

rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);

f

paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);

g

paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);

h

paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);

i

paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);

j

paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).

RHAN 5Ariannu

Cyfrifo gofynion cyllideb16

1

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Gogledd gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

b

ei swyddogaethau eraill.

2

Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

a

y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

b

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

c

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

d

unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

3

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Gogledd hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

b

ei swyddogaethau eraill.

4

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.

5

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.

6

Rhaid i CBC y Gogledd —

a

cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

b

cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

7

Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

8

Caiff CBC y Gogledd ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Gogledd o ganlyniad i hynny.

9

Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Gogledd.

Ariannu gofyniad cyllideb17

1

Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

2

Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau.

3

Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

4

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru