Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3)
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—
(a)
rheoliad 11;
(b)
rheoliad 12;
(c)
rheoliad 13;
(d)
rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad F1... 12 neu 13.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
F2ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);
ystyr “aelod Eryri” (“the Snowdonia member”) yw’r aelod a benodir o dan F3“reoliad 8(1);
F4mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1);
ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);
F5...
F2ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri” (“the Snowdonia National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—
(a)
y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);
(b)
wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—
(a)
cyngor bwrdeistref sirol Conwy;
(b)
cyngor sir Ddinbych;
(c)
cyngor sir y Fflint;
(d)
cyngor Gwynedd;
(e)
cyngor sir Ynys Môn;
(f)
cyngor bwrdeistref sirol Wrecsam;
F4...
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;
ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;
ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—
(a)
(b)
unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.
RHAN 1Sefydlu ac ardal
Sefydlu3.
(1)
Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (“CBC y Gogledd”) wedi ei sefydlu.
(2)
Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaethau—
(a)
a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a
(b)
a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.
(3)
Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.
Ardal4.
Mae ardal CBC y Gogledd wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.
RHAN 2Cyfansoddiad
Cyfansoddiad5.
Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y Gogledd.
RHAN 3Aelodaeth
Aelodaeth6.
(1)
Aelodau CBC y Gogledd yw—
(a)
y 6 aelod cyngor, F6...
(b)
aelod EryriF7 , ac
F8(c)
unrhyw aelod cyfetholedig.
(2)
Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Gogledd F9, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2).
F10(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Gogledd (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Eryri F11ac unrhyw aelod cyfetholedig, oni bai bod—
(a)
darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)
y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Aelodau cyngor7.
(1)
Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)
yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)
y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Gogledd.
F12(2)
Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
(2A)
At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y Gogledd.
(2B)
Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(2C)
Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)
wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
(b)
wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.
(3)
Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Gogledd hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Aelod Eryri8.
(1)
Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).
(2)
Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—
(a)
cadeirydd yr Awdurdod,
(b)
dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)
cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
F13(2A)
Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)
y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;
(b)
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B)
Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—
(a)
os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno F14yn unfrydol, neu
(b)
os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C)
Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.
F15(3)
Pan fo person sy’n aelod Eryri o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Eryri am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
(4)
At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Eryri o CBC y Gogledd.
(5)
Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Eryri fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(6)
Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)
wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
(b)
wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
F16Aelodau cyfetholedig9.
(1)
Caiff CBC y Gogledd gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Gogledd (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2)
Rhaid i’r telerau hynny—
(a)
pennu—
(i)
swyddogaethau CBC y Gogledd y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
(b)
cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill F17sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ac
(c)
cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3)
Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)
y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13, a
(b)
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Eryri weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4)
Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)
am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)
hyd nes—
(i)
y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Gogledd, neu
(ii)
y bydd CBC y Gogledd yn terfynu’r cyfetholiad.
(5)
Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)
caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)
rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Gogledd.
F18Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedig9A.
(1)
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Gogledd os yw’r person—
(a)
yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)
CBC y Gogledd;
(ii)
is-bwyllgor i CBC y Gogledd;
(iii)
deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)
wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)
cyngor cyfansoddol;
(ii)
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).
Rhannu swydd10.
Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)
rheoliad 7(1), neu
(b)
rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
RHAN 4Swyddogaethau
Llesiant economaidd11.
Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Gogledd (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth12.
(1)
(2)
Swyddogaethau cynllunio strategol13.
Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Gogledd (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).
Is-bwerau14.
(1)
Caniateir i CBC y Gogledd wneud unrhyw beth—
(a)
i hwyluso, neu
(b)
sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,
arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.
(2)
Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a)
mynd i wariant;
(b)
codi ffioedd;
(c)
caffael neu waredu eiddo neu hawliau.
F19Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill15.
Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)
cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)
y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)
mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)
cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)
cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)
cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)
tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)
mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)
cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)
cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)
cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).
RHAN 5Ariannu
Cyfrifo gofynion cyllideb16.
(1)
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Gogledd gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—
(a)
ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a
(b)
ei swyddogaethau eraill.
(2)
Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—
(a)
y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);
(b)
y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;
(c)
y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;
(d)
unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.
(3)
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Gogledd hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd i’w priodoli i—
(a)
ei swyddogaethau cynllunio strategol, a
(b)
ei swyddogaethau eraill.
(4)
Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(5)
Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(6)
Rhaid i CBC y Gogledd —
(a)
cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a
(b)
cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,
yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.
(7)
Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.
(8)
Caiff CBC y Gogledd ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Gogledd o ganlyniad i hynny.
(9)
Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Gogledd.
Ariannu gofyniad cyllideb17.
(1)
Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.
(2)
Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol F20yr aelodau cyngor ac aelod Eryri.
(3)
Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(4)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.
F21Cronfa Gyffredinol17A.
(1)
Rhaid i CBC y Gogledd sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y Gogledd.
(2)
Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y Gogledd (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.
(3)
Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y Gogledd gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.
(4)
Rhaid i CBC y Gogledd gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.
(5)
Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).