6.—(1) Aelodau CBC y Gogledd yw—
(a)y 6 aelod cyngor, a
(b)aelod Eryri.
(2) Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Gogledd.
(3) Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Eryri i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Gogledd (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Eryri i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—
(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Gogledd.
(2) Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Gogledd hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).
(2) Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—
(a)cadeirydd yr Awdurdod,
(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
(3) Pan fo aelod Eryri yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran aelod Eryri am y cyfnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Caiff yr aelodau o CBC y Gogledd gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—
(a)yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y Gogledd;
(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y Gogledd.
(2) Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.
(4) Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).
(5) Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—
(a)am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),
(b)hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu
(c)hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y Gogledd.
(6) Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.
(7) Caiff yr aelodau o CBC y Gogledd ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.
(8) Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—
(a)unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);
(b)unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
10. Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)rheoliad 7(1), neu
(b)rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)