RHAN 3Aelodaeth
AelodaethI16
2
Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Gogledd F4, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2).
F53
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
4
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Gogledd (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Eryri F6ac unrhyw aelod cyfetholedig, oni bai bod—
a
darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
b
y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Aelodau cyngorI27
1
Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
a
yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
b
y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Gogledd.
F102
Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
2A
At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y Gogledd.
2B
Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
2C
Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
a
wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
b
wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.
3
Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Gogledd hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Aelod EryriI38
1
Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).
2
Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—
a
cadeirydd yr Awdurdod,
b
dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
c
cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
F72A
Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
a
y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;
b
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
2B
Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—
a
os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno F12yn unfrydol, neu
b
os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
2C
Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.
F113
Pan fo person sy’n aelod Eryri o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Eryri am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
4
At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Eryri o CBC y Gogledd.
5
Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Eryri fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
6
Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
a
wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
b
wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
F8Aelodau cyfetholedigI49
1
Caiff CBC y Gogledd gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Gogledd (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
2
Rhaid i’r telerau hynny—
a
pennu—
i
swyddogaethau CBC y Gogledd y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
ii
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
b
cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill F13sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ac
c
cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
3
Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
a
y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13, a
b
unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Eryri weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
4
Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
a
am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
b
hyd nes—
i
y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Gogledd, neu
ii
y bydd CBC y Gogledd yn terfynu’r cyfetholiad.
5
Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
a
caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
b
rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Gogledd.
F9Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedig9A
1
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Gogledd os yw’r person—
a
yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
i
CBC y Gogledd;
ii
is-bwyllgor i CBC y Gogledd;
iii
deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
b
wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
i
cyngor cyfansoddol;
ii
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).
Rhannu swyddI510
Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
a
rheoliad 7(1), neu
b
rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.