RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaidd11

Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Gogledd (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth12

1

Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 20004, mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Gogledd, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

2

Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Gogledd a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 20215.

Swyddogaethau cynllunio strategol13

Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Gogledd (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Is-bwerau14

1

Caniateir i CBC y Gogledd wneud unrhyw beth—

a

i hwyluso, neu

b

sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

2

Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

a

mynd i wariant;

b

codi ffioedd;

c

caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Dirprwyo swyddogaethau15

1

Caiff CBC y Gogledd ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—

a

paragraff (2);

b

unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.

2

Ni chaiff CBC y Gogledd ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—

a

rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);

b

rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);

c

rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);

d

rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);

e

rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);

f

paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);

g

paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);

h

paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);

i

paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);

j

paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).